Cyfryngau Cymdeithasol

Diweddariadau i Tai Teg yng Ngwynedd

Hoffwn eich hysbysu am newidiadau sydd ar y gweill i'r ffordd y bydd rhai o gynlluniau tai fforddiadwy yng Ngwynedd yn cael eu gweinyddu.

Bydd Cytundeb Lefel Gwasanaeth Cyngor Gwynedd gyda Tai Teg yn dod i ben ar 1 Ebrill 2026. O ganlyniad, bydd y Cyngor yn gweinyddu rhai o'i gynlluniau tai fforddiadwy yn uniongyrchol. Bydd y newidiadau hyn yn digwydd gam wrth gam, gan ddechrau gyda'r Cynllun Prynu Cartref ac asesiadau Adran 106.

Beth sy’n digwydd?

• Ar 1 Ebrill 2026, bydd Cynllun Prynu Cartref Gwynedd ac asesiadau Adran 106 yn cael eu gweinyddu’n uniongyrchol gan Gyngor Gwynedd.

• Ni fydd Tai Teg yn gweinyddu ceisiadau newydd ar gyfer Cynllun Prynu Cartref Gwynedd ac asesiadau Adran 106 ar ôl y dyddiad yma.

• Ond bydd unrhyw gais sydd wedi dechrau ar y broses gyda Tai Teg yn parhau a chwblhau’r broses gyda Tai Teg.

Bydd Cyngor Gwynedd hefyd yn gweinyddu cynlluniau tai fforddiadwy eraill yn y dyfodol, gan gynnwys Cynllun Tŷ Gwynedd a Cynllun Prynu i Osod. Bydd mwy o fanylion am y newid yma yn cael eu rhannu gyda chi yn y man.

Mae’n bwysig nodi y bydd Tai Teg yn parhau i weinyddu cynlluniau tai fforddiadwy ar ran cymdeithasau tai fel Adra, Grŵp Cynefin, Tai Gogledd Cymru a ClwydAlyn.

Beth mae hyn yn ei olygu imi?

Os ydych chi’n bwriadu gwneud cais am dŷ trwy’r Cynllun Prynu Cartref, o 1 Ebrill 2026 ymlaen bydd angen i chi gysylltu â Chyngor Gwynedd yn uniongyrchol. Ni fydd Tai Teg yn rhan o’r broses mwyach.

O 1 Ebrill, ewch i wefan Cyngor Gwynedd am fwy o wybodaeth am y meini prawf ac i ddechrau’r broses o wneud cais. Bydd y wybodaeth yma’n fyw ar y wefan o 1 Ebrill: Cynllun Prynu Cartref Gwynedd

Neu cysylltwch â Chyngor Gwynedd ar:

• tai@gwynedd.llyw.cymru

• 01286 685100

Os ydych chi wedi dechrau’r broses o brynu tŷ trwy’r Cynllun Prynu Cartref gyda Tai Teg, does dim angen i chi weithredu – byddwch yn parhau gyda Tai Teg.

Pam bod hyn yn digwydd?

Yn ddiweddar, mae Cyngor Gwynedd wedi lansio ei Siop un Stop ar gyfer gwasanaethau Tai, sy'n darparu un pwynt mynediad i drigolion ar gyfer cyngor a chefnogaeth tai. Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd y Cyngor yn dechrau gweinyddu ei gynlluniau tai fforddiadwy yn uniongyrchol fel y gall trigolion gael mynediad at wasanaethau tai mewn un lle.

Mwy o wybodaeth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am y broses o ymgeisio am fenthyciad trwy’r Cynllun Prynu Cartref o 1 Ebrill, mae rhestr o gwestiynau cyffredin ar gael yn yr atodiad, neu cysylltwch â Chyngor Gwynedd ar:

• tai@gwynedd.llyw.cymru

• 01286 685100

Wedi postio: 20.03.26

Pagination

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English