Eiddo lle mae rhent wedi ei osod ar lefel y Lwfans Tai / 80% o'r pris rhent ar y farchnad agored neu yn unol a polisi gosod rhent y partner, hyn yn ddibynol ar trefniadau'r landlord a gall hyn amrywio.
Faint o gynilion y gallaf ei gael i fod yn gymwys i gofrestru am eiddo rent canolraddol?
Ni ddylai ymgeisydd fod efo mwy na £16,000 o gynilion.
A fyddai'n cael blaenoriaeth os ydw i'n Denant Cymdeithasol?
Rhaid cadw at y meini prawf a nodir, ond gyda rhai cynlluniau rhoddir blaenoriaeth i denant cymdeithasol er mwyn rhyddhau eiddo cymdeithasol. Fydd hyn wedi ei nodi ar y gwybodaeth marchnata.
Sut ydych chi'n llunio'r rhestr aros?
Unwaith y byddwch wedi cofrestru a phan fyddwch yn datgan diddordeb am eiddo, bydd y rhestr fer yn cael ei greu . Rydym yn ystyried dyddiad cymeradwyo, cysylltiad ar ardal, maint teulu a fforddiadwyaeth. Am fwy o wybodaeth gweler tab Proses Tai Teg ar ein wefan.
Pa ddogfen ychwanegol fydd rhaid i mi ei gyflwyno er mwyn cael fy ystyried ar gyfer eiddo?
Unwaith y byddwch wedi datgan diddordeb mewn eiddo a bod rhestr fer wedi'i chreu yna byddwn wedyn yn gwahodd yr unigolion e.e. y tri uchaf i ddarparu'r dogfennau . Am fwy o wybodaeth gweler tab Proses Tai Teg ar ein wefan. Mae'n bwysig eich bod yn cyflwyno'r dogfennau o fewn yr amserlen a nodir. Bydd methu â chyflenwi'r dogfennau yn golygu eich bod yn cael eich rhoi yn ôl ar y gofrestr ac nad ydych yn cael eu hystyried ar gyfer yr eiddo.
Do you consider student finance as Income?
Yn anffodus, nid ydym yn ystyried hyn fel incwm gan nad yw'n incwm sefydlog ac os penderfynwch adael y cwrs yna bydd yn rhaid i chi dalu'r benthyciad/grant yn ôl.
Allai neud cais ar y cyd gyda'm mhartner ?
Os oes gennych bartner / priod, rhaid i chi eu cwblhau fel "ymgeisydd ar y cyd", ac nid o dan "Manylion Teulu".
Angen Cymorth?
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod: