Cofrestru gyda Tai Teg.
- Darllenwch yr adran meini prawf cymhwysedd i wneud yn siŵr eich bod yn bodloni'r meini prawf. Os ydych yn bodloni'r meini prawf, yna ewch ymlaen i greu'r cyfrif ar-lein.
- Cwblhewch yr holl adrannau yn y ffurflen gofrestru – Noder bod yn rhaid cwblhau pob adran, fel arall, ni fyddwn yn gallu prosesu eich cais, a byddwch yn cael eich rhoi yn ôl ar statws 'heb ei gyflwyno eto'.
- Ar ôl cwblhau, cofiwch bwyso'r botwm cyflwyno.
- Mae gennym hyd at 5 diwrnod gwaith i asesu eich cais a phenderfynu ei gymeradwyo neu wrthod.
Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo a'i roi ar gofrestr Tai Teg.
- Pan fyddwch wedi cael eich cymeradwyo, bydd eich statws yn newid i fod yn ‘barod i ymgeisio’.
- O hyn ymlaen gallwch wneud cais am eiddo (yn dibynnu ar yr hyn yr ydych wedi cael eich cymeradwyo ar ei gyfer, h.y. rhentu/prynu neu'r ddau.)
- Dylech hefyd dderbyn negeseuon e-bost bob dydd Iau gyda gwybodaeth am yr holl eiddo sydd ar gael drwy Tai Teg ac ar gyfer y sir yr ydych wedi cael eich cymeradwyo ar ei chyfer.
Gwneud cais am eiddo
- Unwaith y byddwch wedi gwneud cais am eiddo, bydd eich cais yn cael ei gynnwys ar restr fer.
- Noder os gwelwch yn dda:- ni fyddwn yn creu rhestr fer ar gyfer yr eiddo tan y dyddiad cau.
- Ar ôl dyddiad cau'r eiddo, byddwn yn creu rhestr fer gan gymryd eich dyddiad cofrestru/fforddiadwyedd/maint y teulu a'ch cysylltiad lleol i ystyriaeth. Fel arfer, byddai rhestr fer yn cael ei chwblhau o fewn 1 - 2 diwrnod ar ôl diwrnod cau'r eiddo, yn dibynnu ar y llwyth gwaith.
- Yn dibynnu ar nifer yr eiddo sydd ar gael ar gyfer yr hysbyseb benodol h.y. 4 x 2 ystafell wely, efallai y bydd yn rhaid i ni ail-agor y cais os nad oes gennym nifer digonol o geisiadau. Bydd eich cais yn aros ar y rhestr fer ac yn cael ei ystyried.
- Unwaith y bydd y rhestr fer yn ei lle, byddwn yn eich gwahodd i gyflwyno eich dogfennau 3 mis cyn bod yr eiddo'n barod, er mwyn i ni allu cwblhau asesiad ariannol.
Uwchlwytho eich dogfennau
- Byddwch angen uwchlwytho eich dogfennau erbyn y dyddiad cau fydd wedi ei nodi ar eich cais. Os nad ydych yn gallu uwchlwytho’r dogfennau erbyn y dyddiad cau hwn am reswm penodol, cysylltwch â'r tîm.
- Os nad yw'r dogfennau wedi'u huwchlwytho erbyn y dyddiad cau, cewch eich rhoi yn ôl ar y rhestr ar statws` barod i ymgeisio’.
- Mae angen yr holl ddogfennau a restrir isod arnom. Ni fyddwn yn gallu symud ymlaen â'ch cais os nad yw'r holl ddogfennau wedi'u cyflwyno.
- Enwch y dogfennau cyn eu huwchlwytho, gan fod hyn yn ei gwneud yn haws i ni wirio h.y. datganiad banc Mawrth 2020/ slipiau cyflog Ebrill 2020
- Os oes gennych fwy nag un cyfrif banc, dylech uwchlwytho datganiadau 3 mis ar gyfer yr holl gyfrifon.
- Os oes gennych unrhyw fenthyciadau/cardiau credyd a/neu gardiau siop rhaid i chi ddarparu'r dogfennau.
Dogfennau sydd eu hangen ar gyfer y prif ymgeisydd a’r cyd-ymgeiswyr
- 3 mis o ddatganiadau banc diweddar llawn (pob cyfrif a allai fod gennych)
- 3 mis o slipiau cyflog diweddaraf
- Prawf o unrhyw incwm arall (credyd treth neu lythyr hawl pensiwn preifat)
- Prawf o gynilion (ISA, cyfrannau bondiau)
- Prawf o I.D. (pasbort/tystysgrif geni/cerdyn trwydded yrru)
- Prawf preswylio (biliau cyfleustodau/cyfriflenni banc/cofrestr etholiadol)
- P60
- Benthyciadau banc (os yn berthnasol)
- Cardiau credyd (os yn berthnasol)
- Cardiau cyfrifon â siopau (os yn berthnasol)
- Ffioedd gofal plant (os yw'n berthnasol)
- Cadarnhau penderfyniad morgais mewn egwyddor gan y benthyciwr (os yn prynu eiddo yn unig)
Os yn hunangyflogedig, bydd angen yr isod yn ychwanegol i’r uchod :-
- Tystysgrif SA302 am y 3 blynedd diwethaf
Noder os gwelwch yn dda:- Gall methu â darparu’r holl ddogfennau gofynnol olygu ein bod yn symud ymlaen i'r ymgeisydd nesaf ar y rhestr
Asesu eich cais
- Pan fydd eich holl ddogfennau wedi'u cyflwyno, caiff eich cais ei neilltuo i aelod o staff.
- Yna, bydd yr aelod staff yn cwblhau'r asesiad ariannol yn seiliedig ar y dogfennau/ ar y dystiolaeth yr ydych wedi eu darparu.
- Dylai hyn gymryd rhwng 1-2 diwrnod, yn amodol ar i chi gyflwyno'r holl wybodaeth a nodir yn rhif 4 uchod, fel y gofynnwyd.
- Efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi yn ystod y broses hon i dderbyn eglurhad am unrhyw fater neu i ofyn am wybodaeth bellach.
- Mae sicrhau bod eich dogfennau mewn trefn ac wedi eu henwi yn ei gwneud yn haws i'r swyddog gynnal ei asesiad.
Cymeradwyo eich cais am eiddo
- Pan fydd y swyddog wedi asesu eich cais, caiff ei anfon at y rheolwr i'w wirio.
- Os bydd y rheolwr yn cytuno â'r asesiad, caiff ei anfon ymlaen at y landlord i'w ystyried, neu os byddwch yn prynu, caiff ei anfon at y datblygwr/perchennog.
- Dim ond pan fydd landlord/datblygwr neu berchennog yr eiddo yn cymeradwyo eich cais y byddwch yn cael cynnig yr eiddo'n swyddogol.
- Byddwn yn anfon holiadur boddhad atoch i chi ei lenwi. Mae derbyn adborth yn bwysig iawn er mwyn i ni allu adolygu ein prosesau.
- Pan fydd y landlord yn cymeradwyo’r cais am yr eiddo, byddwn yn cau eich cyfrif ar Tai Teg ac yn dileu pob dogfen.
- Eich landlord fydd eich prif bwynt cyswllt o'r pwynt hwn ymlaen.
Os bydd eich cais am eiddo yn cael ei wrthod
- Yn dilyn yr asesiad ariannol, os nad oes gennych ddigon o incwm ar ddiwedd y mis ar gyfer y rhent/morgais, yna mae'n bosib y bydd Tai Teg yn gwrthod eich cais ar gyfer yr eiddo penodol hwn.
- Byddwn yn trafod hyn gyda chi a byddwn yn adolygu ein penderfyniad os oes gennych ragor o wybodaeth neu dystiolaeth i gefnogi eich cais.
- Os bydd eich cais yn cael ei anfon at y landlord/datblygwr neu berchennog yr eiddo a'i fod yn gwrthod e.e. yn dilyn gwiriadau landlord/gwiriad credyd, yna byddant hwy yn cysylltu â chi i drafod y rheswm, a byddant yn hysbysu Tai Teg o'u penderfyniad.
- Bydd eich cais yn cael ei rhoi yn ôl ar statws `barod I ymgeisio’ er mwyn i chi wneud cais am eiddo arall a fyddai o bosib yn fwy fforddiadwy.
- Bydd yr holl ddogfennau a uwchlwythwyd yn cael eu dileu o'ch cyfrif.