Faint o gynillion allai gael i fod yn gynwys i fod ar y rhestr?
Hyn yn ddibynnol ar y cynllun da chi'n ystyried neu/a'r ardal prynu. Rydym yn ystyried uchafswm pris prynu ag asesu bob achos yn unigol. Dilyn ffigyrau Llywodraeth Cymru - 5% o'r uchafswm pris prynu , a 3.5 o incwm/incwm ar y cyd.
Ar ôl i mi gael fy nghymeradwyo a fy rhoi ar y gofrestr, yna sut allai ymgeisio am eiddo?
Ar ôl I Tai Teg eich cymeradwyo yna allwch ymweld â’r tudalen `Chwilio am Eiddo’ ag edrych am eiddo. Fydd y meini prawf am yr eiddo wedi ei nodi ar y wybodaeth marchnata. Ar ôl dyddiad cau'r eiddo byddem yn creu rhestr fer. Am fwy o wybodaeth am y broses plîs gweler tab Proses Tai Teg ar ein gwefan.
Allai neud cais ar y cyd gyda'm mhartner?
Os oes gennych bartner / priod, rhaid i chi eu cwblhau fel "ymgeisydd ar y cyd", ac nid o dan "Manylion Teulu"
Pam rhaid i mi dalu ffi o £ 75.00 ar gyfer eiddo i'w brynu?
Mae'r ffi ar gyfer y gwaith gweinyddu ac asesu a gynhelir gan Tai Teg (asesiad cysylltiad ariannol a chysylltiad lleol) er mwyn i chi gael eich ystyried ar gyfer eiddo. Mae'r ffi o £ 75 yn daladwy ar ddechrau'r broses wrth wneud cais am eiddo, a Ni fyddwn yn gallu cychwyn y broses asesu os na dderbynnir y taliad.
Angen Cymorth?
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod: