Dyma’r meini prawf sy’n rhaid i chi eu cwrdd er mwyn cael eich ystyried i fod ar y gofrestr.
Os yw eich incwm o dan £16,000 neu os ydych mewn o ddod yn ddigartref plîs cysylltwch â'ch Cyngor Sir Leol er mwyn derbyn cyngor pellach am eich opsiynau tai.
Am ddiffiniadau o'r Angen am Dai a Tai Fforddiadwy fel y nodir gan Lywodraeth Cymru, gweler y ddolen isod (tudalen 19 ymlaen).https://llyw.cymru/nodyn-cyngo...
Meini Prawf
Oedran – rhaid i chi fod dros 18 mlwydd oed.
Ariannol - i gael incwm cartref gros blynyddol rhwng £ 16,000.00 a £ 45,000.00.Rydym yn ystyried credyd treth yn unig, nid ydym yn ystyried budd-daliadau arall fel incwm. (Gweler isod am incwm rhentu i brynu a rhan berchnogaeth). Yn ystod yr asesiad byddwn yn ystyried goramser, os yw goramser yn rheolaidd, efallai y byddwn yn gwrthod eich cais os yw'r incwm gros a goramser rheolaidd yn fwy na £45K neu £60K i'w rentu.
Cyflogaeth:- rhaid i ymgeiswyr fod mewn cyflogaeth (rhan amser neu llawn amser ond rhaid bod ag incwm gros y flwyddyn o £16,000 - £45,000) neu os yn prynu, efo cynilion ac yn methu prynu ar y farchnad agored heb gymorth. (bydd rhaid fod gennych incwm i gynnal yr eiddo a byddwn yn ystyried fesul cais).
Fforddiadwy - ni allwch fforddio i rentu ar y farchnad agored a/neu brynu eiddo sy'n addas i'ch anghenion.
Llety - i fod naill ai'n brynwr tro cyntaf neu os yw'r cartref presennol yn anaddas a ddim yn cwrdd ag anghenion eich teulu e.e.
oherwydd maint teulu - (tystiolaeth o gorboblogi)
fforddiadwyedd - (rhent presennol yn anfforddiadwy)
anghenion penodol - (adolygir fesul achos)
mewn angen oherwydd tor perthynas (Rhaid darparu tystiolaeth o werthiant ac ecwiti ar werthiant eiddo).
Cysylltiad Lleol :- bydd rhaid i chi fod â chysylltiad lleol â’r ardal rydych yn dewis byw ynddi e.e. yn byw, gweithio neu gyda cysylltiad teuluol agos :- Rhieni, neiniau & theidiau, brodyr a chwiorydd, plant sy'n oedolion.
Rhyddhad Amhenodol :- Bydd rhaid darparu prawf bod gennych ryddhad amhenodol.
Eithriad- Personél Gwasanaeth – rydym yn ystyried ceisiadau ar gyfer y gofrestr os yw’r `Service Personnel’ wedi gadael yn ddiweddar ac ar incwm `zero’ – ond rhaid cael cysylltiad lleol fel a nodir uchod a mewn amser bydd angen bod yn cyrraedd yr incwm trwy incwm gwaith neu bensiwn preifat a hynny cyn gwneud cais am eiddo.
Plis Noder:-
Cynllun Rhentu i Brynu a Rhan Berchnoaeth - Fe allwn ystyried ceisiadau gydag incwm cartref gros blynyddol rhwng £45,000 i £60,000 ar gyfer y cynlluniau yma yn unig ac nid ydym yn ystyried unrhyw dreth waith na chredyd treth plant. Yn ystod yr asesiad byddwn yn ystyried goramser, os yw goramser yn rheolaidd, efallai y byddwn yn gwrthod eich cais os yw'r incwm gros a goramser rheolaidd yn fwy na £45K neu £60K i'w rentu.
Hunan Gyflogedig – Os yr ydych yn hunan gyflogedig yr incwm blynyddol sydd angen ei roi ar eich cais fel elw gros yw y ffigwr elw ar eich ffurflen dreth (tudalennau 13 neu 14) dim y ffigwr trosiant. (Gan mai dyma’r swm o arian a gymerir gan fusnes mewn cyfnod penodol ac nid yw yn cael ei gyfrif fel incwm).
Gweler tab broses Tai Teg ynglyn a manylion pellach o ran y cynllun.