Rhent Canolraddol
- Mae rhent canolraddol yn opsiwn i bobl sydd ddim mewn sefyllfa i brynu cartref am amryw o resymau megis dim digon o flaendal neu hanes credyd gwael.
- Mae’r cynllun wedi ei anelu at bobl mewn cyflogaeth, ac sydd ddim yn ddibynnol ar fudd-daliadau.
- Gosodir rhent ar lwfans Tai lleol neu 80% o’r rhenti farchnad agored - cyfeiriwch at hysbyseb eiddo gan y gallai hyn fod yn wahanol yn dibynnu ar y landlord.
- Fel rheol bydd angen mis o rent a mis o flaendal - fydd hyn wedi ei nodi ar gwybodaeth marchnata'r eiddo.
- Bydd gofyn i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eiddo rhent canolraddol gwblhau gweithdrefn gwirio gan y landlord. Mae hyn i sicrhau eu bod yn ddigon sefydlog yn ariannol i gynnal tenantiaeth ar lefel rhent penodedig a'ch bod yn denantiaid addas.
- Ni ddylai fod gan ymgeisydd mwy na £16,000 o gynilion, cysylltwch â ni os ydych angen mwy o wybodaeth.
- Mae'n rhaid i'r aelwyd allu fforddio'r costau tai (gan gynnwys ' rhent ' ag unrhyw tál gwasanaeth) a dylai'r rhain gyfateb i ddim mwy nag oddeutu 30% o'r incwm gros. (Incwm gros gan gynnwys Credyd treth plant a chredyd treth gwaith) e.e. £25,000 x 30% = £7,500/12 (mis) £ 625pcm-felly byddai'r rhent fforddiadwy oddeutu £625pcm.
Prynu Cartref
- Mae Prynu Cartref yn gynllun a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i'ch cynorthwyo chwi i brynu eiddo ar y farchnad agored.
- Bydd rhaid i chi ariannu hyd at 70% o bris yr eiddo, gyda morgais, neu gyfuniad o forgais a chynilion.
- Rhaid ichi gael morgais ad-dalu ar gyfer y gyfran o'r cartref yr ydych yn ei phrynu.
- Byddwch angen isafswm blaendal o 5%
(Yn amodol ar ofynion y benthyciwr morgais).
- Bydd Grŵp Cynefin yn benthyca'r y 30% sy’n weddill i chi. Mewn rhai amgylchiadau, gellir cynyddu’r benthyciad i 50% gyda cymeradwyaeth y Llywodraeth Lleol.
- Bydd y benthyciad yn cael ei sicrhau yn erbyn yr eiddo, ni fydd rhent na llog yn daladwy ar y benthyciad.
- Pan fydd amser yn caniatáu fe allwch dalu’r benthyciad yn ôl i Grŵp Cynefin.
- Am fwy o wybodaeth plis cliciwch ar y linc yma a'r daflen wybodaeth isod.
- https://llyw.cymru/sites/defau...https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-02/180228-prynu-cartref-cymru-canllaw-i-brynwyr.pdf
Rhan Ecwiti
- Cynigir rhan ecwiti fel arfer ar eiddo a brynir yn uniongyrchol gan ddatblygwr, gymdeithas dai/awdurdod lleol neu eiddo ail-law a brynwyd yn y gorffennol.
- Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd gydymffurfio â meini prawf o’r Amod106 (Dogfen gyfreithiol yw’r Amod 106 gan y Cyngor) e.e. cysylltiad lleol.
- Mae’r benthyciad ecwiti yn gallu amrywio a byddai’n ofynnol i chi allu cyllido y % sy’n weddill drwy forgais neu gyfuniad o forgais a chynilion.
- Rhaid ichi gael morgais ad-dalu ar gyfer y gyfran o'r cartref yr ydych yn ei phrynu.
- Bydd y benthyciad ecwiti yn cael ei sicrhau yn erbyn eich eiddo, ni fydd rhent na llog yn daladwy ar y benthyciad.
- Bydd angen Isafswm blaendal o 5% (Yn amodol ar ofynion y benthyciwr morgais).
- Mewn rhai amgylchiadau ni fyddwch yn gallu ad-dalu'r % ecwiti ac felly ni fyddant yn gallu bod yn berchen 100% ar yr eiddo.
- Byddwn yn codi ffi asesu o £75.00
Eiddo Adran 106 ar Ddisgownt
- Cynllun ble mae’r datblygwr yn adeiladu tai ac yn eu gwerthu ar bris disgownt is na'r o’r farchnad agored
- Bydd y % discownt yn cael ei gytuno yn ystod y broses Cynllunio.
- Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd gydymffurfio â meini prawf o’r Adran 106. (dogfen cyfreithiol gan y Cyngor) e.e. cysylltiad lleol.
- Mae’r % disgownt yn gallu amrywio a byddai’n ofynnol i chi allu cyllido y % sy’n weddill drwy forgais neu gyfuniad o forgais a chynilion.
- Rhaid ichi gael morgais ad-dalu ar gyfer y gyfran o'r cartref yr ydych yn ei phrynu.
- Bydd angen isafswm blaendal o 20%. (Yn amodol ar ofynion y benthyciwr morgais).
- Byddwn yn codi ffi asesu o £75.00.
Rhan Berchnogaeth
- Gallwch brynu % o'r cartref a thalu rhent ar y gyfran arall.
- Gallwch brynu % gychwynnol fydd rhwng 25% a 75% o werth yr eiddo.
- Rhaid ichi gael morgais ad-dalu ar gyfer y gyfran o'r cartref yr ydych yn ei phrynu.
- Gallwch gynyddu eich cyfran yn yr eiddo ar unrhyw adeg.
- Chi fydd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r eiddo hyn yn oed os ydych yn talu % o rent.
- Fydd yr les yn amleinllu'ch cyfrifoldebau o ran yr eiddo.
- Am fwy o wybodaeth plis cliciwch ar y linc yma.
Rhentu i’w Brynu
- Byddwch yn rhentu'r cartref yn y lle cyntaf, a gall gael 25% o'r rhent a dalwyd gennych dros gyfnod y denantiaeth, a 50% o'r cynnydd yng ngwerth yr eiddo (os bydd cynnydd) yn ystod y cyfnod y byddwch yn rhentu'r eiddo – eu defnyddio fel blaendal i gyfrannu at brynu'r eiddo.
- Ar gyfer y cynllun penodol hwn rydym ond yn cyfrifo incwm gros y cartref, nid ydym yn ystyried unrhyw Credyd treth plant a chredyd treth gwaith.
- Bydd eich cytundeb ar gyfer cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru yn para am bum mlynedd. Gallwch wneud cais i brynu eich cartref unrhyw bryd rhwng diwedd yr ail flwyddyn a diwedd y cytundeb.
- Am fwy o wybodaeth plis cliciwch ar y linc yma.
- Rydym yn ystyried eich hanes credyd fel rhan o’r cais rhentu I brynu – a posib fyddem yn gofyn am dystiolaeth o’ch adroddiad credyd.
- Mae'r cynlluniau hyn ar gyfer unigolion sydd heb isafswm o 5% o flaendal ond sy'n gallu cael mynediad at forgais
- Petai chi'n penderfynu peidio prynu'r eiddo yna ni fyddwch yn deilwng o dderbyn y 25% sydd wedi ei rhoi o'r neilltu tuag at y blaendal.
Hunan adeiladu A106
- Plot o dir ar gael gan y Cyngor neu berchennog tir i adeiladu eiddo Fforddiadwy.
- Rhaid i’r hunan adeiladwr gwrdd â'r Meini Prawf, a bydd yn gyfrifol am holl gostau dylunio ac adeiladu’r cartre.
- Lle bo'r angen, mae’n bosib y bydd y Cyngor yn gallu rhoi ‘benthyciad pontio’ hyd nes y bydd y cartref wedi ei adeiladu i safon dderbyniol fel bod modd cael morgais arno. (Cysylltwch â’r Cyngor perthnasol am fwy o wybodaeth - cofiwch nad yw pob Cyngor yn darparu’r gwasanaeth benthyciad pontio)
- Byddwn yn codi ffi asesu o £75.00
Mae cofrestru gyda Tai Teg am DDIM , ond codi’r ffi asesu o £75.00 *ar rhai cynlluniau. Byddwn yn eich cynghori o hyn yn ystod y broses.