Cyfryngau Cymdeithasol

Newyddion

Diweddariadau i Tai Teg yng Ngwynedd

Wedi postio: 20.03.26

Hoffwn eich hysbysu am newidiadau sydd ar y gweill i'r ffordd y bydd rhai o gynlluniau tai fforddiadwy yng Ngwynedd yn cael eu gweinyddu.

Bydd Cytundeb Lefel Gwasanaeth Cyngor Gwynedd gyda Tai Teg yn dod i ben ar 1 Ebrill 2026. O ganlyniad, bydd y Cyngor yn gweinyddu rhai o'i gynlluniau tai fforddiadwy yn uniongyrchol. Bydd y newidiadau hyn yn digwydd gam wrth gam, gan ddechrau gyda'r Cynllun Prynu Cartref ac asesiadau Adran 106.

Beth sy’n digwydd?

• Ar 1 Ebrill 2026, bydd Cynllun Prynu Cartref Gwynedd ac asesiadau Adran 106 yn cael eu gweinyddu’n uniongyrchol gan Gyngor Gwynedd.

• Ni fydd Tai Teg yn gweinyddu ceisiadau newydd ar gyfer Cynllun Prynu Cartref Gwynedd ac asesiadau Adran 106 ar ôl y dyddiad yma.

• Ond bydd unrhyw gais sydd wedi dechrau ar y broses gyda Tai Teg yn parhau a chwblhau’r broses gyda Tai Teg.

Bydd Cyngor Gwynedd hefyd yn gweinyddu cynlluniau tai fforddiadwy eraill yn y dyfodol, gan gynnwys Cynllun Tŷ Gwynedd a Cynllun Prynu i Osod. Bydd mwy o fanylion am y newid yma yn cael eu rhannu gyda chi yn y man.

Mae’n bwysig nodi y bydd Tai Teg yn parhau i weinyddu cynlluniau tai fforddiadwy ar ran cymdeithasau tai fel Adra, Grŵp Cynefin, Tai Gogledd Cymru a ClwydAlyn.

Beth mae hyn yn ei olygu imi?

Os ydych chi’n bwriadu gwneud cais am dŷ trwy’r Cynllun Prynu Cartref, o 1 Ebrill 2026 ymlaen bydd angen i chi gysylltu â Chyngor Gwynedd yn uniongyrchol. Ni fydd Tai Teg yn rhan o’r broses mwyach.

O 1 Ebrill, ewch i wefan Cyngor Gwynedd am fwy o wybodaeth am y meini prawf ac i ddechrau’r broses o wneud cais. Bydd y wybodaeth yma’n fyw ar y wefan o 1 Ebrill: Cynllun Prynu Cartref Gwynedd

Neu cysylltwch â Chyngor Gwynedd ar:

• tai@gwynedd.llyw.cymru

• 01286 685100

Os ydych chi wedi dechrau’r broses o brynu tŷ trwy’r Cynllun Prynu Cartref gyda Tai Teg, does dim angen i chi weithredu – byddwch yn parhau gyda Tai Teg.

Pam bod hyn yn digwydd?

Yn ddiweddar, mae Cyngor Gwynedd wedi lansio ei Siop un Stop ar gyfer gwasanaethau Tai, sy'n darparu un pwynt mynediad i drigolion ar gyfer cyngor a chefnogaeth tai. Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd y Cyngor yn dechrau gweinyddu ei gynlluniau tai fforddiadwy yn uniongyrchol fel y gall trigolion gael mynediad at wasanaethau tai mewn un lle.

Mwy o wybodaeth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am y broses o ymgeisio am fenthyciad trwy’r Cynllun Prynu Cartref o 1 Ebrill, mae rhestr o gwestiynau cyffredin ar gael yn yr atodiad, neu cysylltwch â Chyngor Gwynedd ar:

• tai@gwynedd.llyw.cymru

• 01286 685100

Darllen mwy »

Incwm - Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

Wedi postio: 16.02.26

Mae partneriaid Tai Teg wedi adolygu yr hyn yr ydym yn ei ystyried yn incwm, ac yr hoffem gadarnhau bod Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) wedi'i gynnwys ar y rhestr. Gweler y newid isod:

  • Credyd Cynhwysol – (gan gynnwys yr elfen tai a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)) - bob mis
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

Mae hyn yn weithredol o 16.02.2026.

Darllen mwy »

Towyn Road, Pensarn, Conwy

Wedi postio: 11.02.26

Datblygiad cyffrous gan Cartrefi Conwy ger Abergele i gynnwys;

21 o gartrefi dwy ystafell wely ac 19 o gartrefi tri ystafell wely ar y cynllun rhent canolraddol.

Amcangyfrifir i gael ei cwblhau Medi / Hydref 2026

Cofresrtrwch gyda Tai Teg nawr (nid yw'r eiddo yma ar gael i ymgeisio amdano ar hyn o bryd)

Darllen mwy »

Yn Dod yn Fuan - eiddo 2 & 3 ystafell wely i'w brynu yn Bryn Castell, ger Yr Wyddgrug

Wedi postio: 22.12.25

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd cartrefi newydd â 2 a 3 ystafell wely ar gael cyn bo hir yn Bryn Castell, Ffordd New Brighton, ger Yr Wyddgrug, New Brighton, CH7 6AP o dan y Cynllun Tai Cost Isel yng Ngogledd Cymru. I allu gwneud cais, rhaid i chi gofrestru a chael eich cymeradwyo gan Tai Teg a bodloni’r meini prawf ar gyfer yr eiddo, a fydd yn cael eu cynnwys yn yr hysbyseb yn y flwyddyn Newydd. Ewch i’r wefan i gwblhau’r cais ar-lein a’i gyflwyno i’w ystyried. Register here | Tai Teg. Am ragor o wybodaeth am y broses, cliciwch ar Proses Tai Teg | Tai Teg

Plis noder, bydd Tai Teg ar gau dros y Nadolig rhwng 24 Rhagfyr – 2 Ionawr. Am ragor o fanylion plis cysylltwch â’r Swyddog sy’n gyfrifol am werthiant yn Lovell:

📞 01352 300169 📧 bryncastell.sales@lovell.co.uk 🌐 https://newhomes.lovell.co.uk/developments/bryn-castell/

Darllen mwy »

Holi am farn leol i lunio dyfodol tai ym Mae Trearddur, Môn

Wedi postio: 06.11.25

Ydych chi’n byw yn neu o gwmpas Bae Trearddur?

Mae Grŵp Cynefin yn annog trigolion a’r rhai sydd â chysylltiad lleol â Bae Trearddur a’r cymunedau cyfagos i gymryd rhan mewn holiadur newydd am anghenion tai. Maen nhw yn awyddus yn benodol i glywed gan bobol fyddai a diddordeb mewn byw yn yr ardal, trwy rentu neu brynu tŷ newydd petai rhai ar gael.

Gallwch ei ateb yma: Holiadur Anghenion Tai Bae Trearddur

Darllen mwy »

Pagination

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English