Cyfryngau Cymdeithasol

Archif Newyddion

Am Medi 2020. Mae is 1 cofnodion ...

Mawrth

Coronafirws: Neges i Ymgeiswyr Tai Teg

Posted: 19.03.20

Mae Tai Teg yn gwerthfawrogi bod hwn yn gyfnod anodd a hoffai gynnig sicrwydd o'n hymrwymiad i barhau â'r gwasanaeth, yn dilyn y cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. O ystyried y nifer cynyddol o achosion o Coronafirws yn y wlad, rydym yn gosod mesurau i ddiogelu lles ein holl staff. Isod, rydym wedi amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd:

Beth ydym ni'n ei wneud i helpu i leihau lledaeniad Coronafirws:

  • Rydym yn cau ein holl swyddfeydd i'r cyhoedd;
  • Rydym yn canslo pob digwyddiad / diwrnod agored;
  • Canslo pob apwyntiad nad yw'n hanfodol;
  • Gofyn i fwyafrif ein timau weithio gartref a sicrhau bod ein holl gydweithwyr sydd â'r symptomau yn hunan-ynysu ar unwaith.

Sut y gallai hyn effeithio arnoch chi

Gan ein bod yn wynebu gweithredu gyda llai o weithlu dros yr wythnosau nesaf, gall hyn olygu:

  • Efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i ni ateb galwadau;
  • Efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i ymateb i e-byst;
  • Efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i ni asesu ceisiadau sydd dan ystyriaeth;
  • Efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i ni asesu ceisiadau am eiddo;

Sut y gallwch chi ein helpu ni

  • Cysylltwch â ni dim ond os yw'ch ymholiad yn fater brys;

Yn bwysicaf oll, gofynnwn ichi fod yn ystyrlon o’ch ffrindiau, teulu a chymdogion trwy'r amser anodd hwn.

Darllen mwy »