Hyfforddiant Staff
**Bydd staff Tai Teg allan o'r swyddfa prynhawn'ma (22/1/20) oherwydd hyfforddiant. Os oes gennych ymholiad cysylltwch gyda ni ar info@taiteg.org.uk ac mi wnawn gysylltu nól yfory.**
Darllen mwy »**Bydd staff Tai Teg allan o'r swyddfa prynhawn'ma (22/1/20) oherwydd hyfforddiant. Os oes gennych ymholiad cysylltwch gyda ni ar info@taiteg.org.uk ac mi wnawn gysylltu nól yfory.**
Darllen mwy »4 x eiddo par newydd 3 llofft yn dod i Barc Tyddyn Bach Caergybi, o dan y Cynllun Rhent Canolraddol gyda Grwp Cynefin.
Rhagwelir dyddiad cwbwlhau mis Mehefin 2020.
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru gyda Tai Teg, www.taiteg.org.uk a gyda chysylltiad i ardal gymuned Caergybi.
Rhent misol - £529.78 (yn cynnwys tal gwasanaeth)
Mwy o wybodaeth i ddilyn.
Darllen mwy »Mae gan Tai Gogledd Cymru unedau yn dod ar gael yn Llanfair DC, Os oes gennych diddordeb bydd rhaid I chi gwblhau'r ffurflen gais.
Cae Mair
Dyddiadau:
Diwedd Awst 2020 – Cae Mair, Llanfair DC 2 x Ty 2 Lofft, 2 x Byngalo 2 Lofft a 2 x Ty 3 Llofft
Darllen mwy »
Mae gan Tai Gogledd Cymru unedau yn dod ar gael yn Ninbych, Os oes gennych diddordeb bydd rhaid I chi gwblhau'r ffurflen gais.
Cae Topyn
Dyddiadau:
Diwedd Mawrth/Dechrau Ebrill 2020 for 2 x Ty 3 Llofft and 1 x Ty 2 Dwy Lofft on Datblygiad Cae Topyn, Dinbych.
Diwedd Awst 2020 – 4 uned ar safle Cae Topyn comprising 2 x Ty 2 Llofft and 2 x Ty 3 Llofft.
Darllen mwy »Yn anffodus nid ydym yn gallu derbyn galwadau ffon, felly os oes gennych ymholiad cysylltwch gyda ni ar info@taiteg.org.uk.
Darllen mwy »Mae Tai Teg yn gwerthfawrogi bod hwn yn gyfnod anodd a hoffai gynnig sicrwydd o'n hymrwymiad i barhau â'r gwasanaeth, yn dilyn y cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. O ystyried y nifer cynyddol o achosion o Coronafirws yn y wlad, rydym yn gosod mesurau i ddiogelu lles ein holl staff. Isod, rydym wedi amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd:
Beth ydym ni'n ei wneud i helpu i leihau lledaeniad Coronafirws:
Sut y gallai hyn effeithio arnoch chi
Gan ein bod yn wynebu gweithredu gyda llai o weithlu dros yr wythnosau nesaf, gall hyn olygu:
Sut y gallwch chi ein helpu ni
Yn bwysicaf oll, gofynnwn ichi fod yn ystyrlon o’ch ffrindiau, teulu a chymdogion trwy'r amser anodd hwn.
Darllen mwy »Mae Adra yn falch o fod yn cydweithio hefo cwmni Beech Development Ltd, sy’n adeiladu 110 o gartrefi ym Mharc Pentywyn, Deganwy, Conwy.
Bydd Adra, prif ddarparwr tai Gogledd Cymru, yn gyfrifol am 33 o’r tai hynny, mae Beech wedi dechrau ar y gwaith paratoi ac adeiladu, a bydd rhai o’r cartrefi yn barod ac ar gael ar ddiwedd 2020.
Bydd 17 o’r cartrefi ar gael ar sail Rhent Canolradd i denantiaid.
Cofrestrwch gyda Tai Teg os am gael eich ystyried am gartrefi fforddiadwy ar Rent Canolraddol. Gallwch gysylltu hefo Tai Teg drwy ffonio 03456 015 605 neu anfon e-bost at info@taiteg.org.uk neu mae mwy o wybodaeth am y cynlluniau gwahanol ar y wefan hefyd: taiteg.org.uk
Bydd 16 o’r cartrefi ar gael ar sail Rhent Cymdeithasol.
Cofrestrwch gyda Datrysiadau Tai Conwy ar 0300 124 0050. – os oes gennych ddiddordeb yn yr eiddo rhent cymdeithasol.
Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn fuan.
Darllen mwy »Ydych yn ystyried neu wedi cychwyn cwblhau cais i gofrestru á Tai Teg?
Dyma rai pwyntiau gwerthfawr i chi ystyried wrth gyflwyno cais:-
• Rhaid sicrhau eich bod yn cwblhau’r wybodaeth gywir yn y blychau perthnasol;
• Mae angen eich cyfeiriad yn llawn gan gynnwys y cod post;
• Rhaid cynnwys eich cyfeiriadau blaenorol - am gyfnod o 5 mlynedd;
• Plîs noder gwybodaeth am y plant fydd yn byw hefo chi yn yr eiddo;
• Incwm Gross ydi’r incwm cyn i unrhyw Daliadau gael eu tynnu o’ch cyflog;
• Incwm Net ydi’r incwm ar ôl pensiwn ayb gael eu tynnu allan o’ch cyflog;
• Os oes ganddoch ecwiti yna plîs noder hyn yn glir
• Plîs noder unrhyw gynilion sydd gennych
• Dewis ardal - rhaid cael cysylltiad â’r Sir/Ardal - plîs nodwch be’ ydi’r cysylltiad;
• Os yn gais yn dilyn tor berthynas yna plîs nodwch hyn yn glir gan nodi be’ ydi eich sefyllfa bresennol.
• Ar ôl cwblhau'r rhannau 1 i 8 rhaid arbed ar waelod bob tudalen a rhoi tic yn y blwch a chofiwch bwyso CYFLWYNO CAIS.
Plis noder:- o fis Mawrth 2020 ymlaen os yw ceisiadau ddim yn cael eu cyflwyno ac yn cael eu gadael ar eu hanner yna bydd y cyfrif yn cael ei ddileu.
Stad Marcwis, Rhosybol
Cyfle i berchen eich tŷ eich hun.
Mae cyfle wedi codi i Gyngor Sir Ynys Môn adeiladu tai fforddiadwy yn Rhosybol. Rydym yn holi os oes diddordeb gan bobl leol mewn prynu tai 2 neu 3 llofft, neu mewn cynllun rhannu ecwiti. Mae 5 ty ar gael sef plotiau 2, 3, 4 a 9, 10.
Tai 2 a 3 llofft ar gael trwy gynllun rhannu ecwiti neu i brynwyr tro cyntaf.
Mae’r tai yn cynnwys cyntedd sy’n arwain at ystafell fyw, cegin ac ystafell gawod. Mae dwy neu dair ystafell wely ynghyd a ‘stafell molchi wedi ei lleoli ar y llawr cyntaf.
Y tu allan, mae gardd a lle parcio ar gyfer dau gar.
Pris fforddiadwy £ i’w gytuno, (70% o bris y farchnad)
Mae’r eiddo yn rhydd-ddaliad.
I fod yn gymwys, mi fydd yn rhaid i chi fodloni'r meini prawf cysylltiad lleol ar gyfer tai fforddiadwy fel a ganlyn:
Blaenoriaeth 1: Wedi byw neu weithio am 5 mlynedd ddi-dor cyn meddiant yr eiddo fforddiadwy yng nghymuned Rhosybol.
Blaenoriaeth 2: Os nad oes Person Dynodedig wedi ei adnabod fel y nodir ym Mlaenoriaeth 1, bydd y meini prawf yn ymestyn i Amlwch, Cemaes, Penysarn, Llannerchymedd.
Blaenoriaeth 3: Os nad oes Person Dynodedig wedi ei adnabod fel y nodir ym Mlaenoriaeth 1 a 2 bydd anghenion preswyl a gwaith yn ymestyn i Ynys Môn gyfan.
*Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cadw’r hawl i beidio symud ymlaen efo’r cynllun os nad oes diddordeb digonol neu os nad yw’r cynllun yn hyfyw.
Gwybodaeth bwysig i ymgeiswyr Tai Teg
Fel rhan o’r broses flynyddol ae Tai Teg yn adolygu'r ymgeiswyr ar y gofrestr i sicrhau bod eich manylion yn gyfredol a/neu eich bod am aros ar y gofrestr.
Byddwch wedi derbyn ebost yn gofyn I chi fewngofnodi i'ch cyfrif o fewn yr 21 diwrnod nesaf i adolygu eich manylion.
Os na fyddwch wedi mewngofnodi, fel rhan o'n telerau ac amodau bydd eich cyfrif a'r holl ddata cyfatebol yn cael eu dileu. Byddwch yn gallu ail-gofrestru ar unrhyw adeg ond byddwch yn colli eich dyddiad cofrestru gwreiddiol.
Diolch yn fawr am eich cydweithrediad
Tîm Tai Teg
Darllen mwy »Bydd gan Grŵp Cynefin 6 x Tŷ 3 Llofft yn dod ar gael ar y Cynllu Rhentu yw Brynu yn Rhuddlan yn Ionawr 2021,
Os oes gennych diddordeb bydd rhaid I chi gwblhau'r ffurflen gais Tai Teg.
Fydd staff Tai Teg ar hyfforddiant heddiw (12.08.2020) felly ni fydd swyddogion ar gael i dderbyn eich galwadau ffôn.
Diolch yn fawr
Darllen mwy »Fydd staff Tai Teg ar hyfforddiant bore fory (07.08.2020) o 10am hyd at 11am felly ni fydd swyddogion ar gael i dderbyn eich galwadau ffôn nag ychwaith i ymateb i e-byst yn ystod y cyfnod yma. Diolch yn fawr
Tai Teg staff will be attending training tomorrow morning (07.08.2020) from 10am to 11am and will therefore not be able available to answer any phone calls or emails during this period. Thank you
Darllen mwy »Bydd y swyddfa yn cau am hanner dydd ar Noswyl Nadolig ac yn parhau ar gau nes 9 o'r gloch ar fore'r 4ydd o Ionawr.
Darllen mwy »The Tai Teg staff are attending a meeting and therefore will be unavailable to accept calls between 2 and 3 this afternoon.
Darllen mwy »Bydd staff Tai Teg yn mynychu cyfarfod ac felly ni fydd unrhyw un ar gael i dderbyn galwadau rhwng 2 a 3 o'r gloch heddiw.
Darllen mwy »Bydd gan Cartrefi Conwy 2 x Tŷ 3 Llofft yn dod ar gael ar y Cynllu Rhentu yw Brynu ynAberkinsey, Rhyl yn Mawrth 2021,
Os oes gennych diddordeb bydd rhaid I chi gwblhau'r ffurflen gais Tai Teg.
Darllen mwy »