‼ NEGES BWYSIG ‼
Bob blwyddyn mae Tai Teg yn cynnal proses adolygu ar bob ymgeisydd i sicrhau eu bod eisiau aros ar y gofrestr. Ar gyfer unrhyw ymgeisydd Tai Teg nad ydynt wedi mewngofnodi i'w cyfrif am 28 diwrnod ac sydd am aros ar y gofrestr yna mewngofnodwch cyn gynted â phosibl. Bydd ymgeiswyr nad ydynt wedi mewngofnodi yn derbyn e-bost yn ystod yr wythnos yn cychwyn y fed o Chwefror 2024 yn gofyn iddynt fewngofnodi os ydynt am gadw'u cais yn fyw. Bydd ail e-bost awtomataidd yn cael ei anfon un mis ar ôl yr e-bost cyntaf er mwyn eu hatgoffa. Os nad yw ymgeiswyr wedi mewngofnodi o fewn 3 mis ar ôl derbyn negeseuon atgoffa, yna bydd eu cais yn cael ei ddileu.
Darllen mwy »