Am Tai Teg

Croeso i safle we Tai Teg.

Bydd y safle yn rhoi gwahanol opsiynau ynglŷn ag unedau fforddiadwy sydd ar gael, boed yn eiddo i’w rhentu (rhent canolraddol) neu eiddo i’w prynu am bris fforddiadwy.

Bydd y wefan yn darparu gwybodaeth am :-

  • Feini Prawf
  • Proses Tai Teg
  • Cynlluniau
  • Cysylltu â ni

Bwriad y gofrestr yw casglu gwybodaeth am yr angen am eiddo fforddiadwy yn ardaloedd Cyngor Sir Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych, Fflint, Wrecsam a Phowys. Defnyddir yr wybodaeth i roi sylwadau ar geisiadau cynllunio, yn ogystal â chefnogi’r Cynghorau a Chymdeithasau i gynllunio ar gyfer datblygiadau i’r dyfodol.

Mae yna 13 partner yn rhan o’r gofrestr sef -

  • Cartrefi Conwy
  • Cyngor Conwy
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Cyngor Sir Y Fflint
  • Cyngor Gwynedd
  • Cyngor Sir Powys
  • Cyngor Sir Wrecsam
  • Cyngor Sir Ynys Môn
  • Adra
  • Clwyd Alyn
  • Grŵp Cynefin
  • Parc Cenedlaethol Eryri
  • Tai Gogledd Cymru

Fel partneriaid, byddwn yn hyrwyddo a marchnata Tai Teg er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r cynlluniau posib sydd ar gael.

Cyn i chi greu cyfrif, gwiriwch y meini prawf i weld a ydych yn gymwys. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf, yna ewch ati i greu cyfrif a llenwi'r ffurflen gais ar-lein.

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Cofrestu â Tai Teg

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English