Dyma rai o'r termau a'r geiriau cyffredin yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws ar ein gwefan ac yn ystod proses eich cais. Defnyddiwch hwn i'ch helpu chi i ddeall y geiriau a'r ymadroddion cyffredin hyn yn well. Rhestr ddefnyddiol i unrhyw un sydd am rentu eiddo trwy Tai Teg.
Term cyffredinol ar gyfer sefydliadau dielw sydd â'r nod o sicrhau bod cartrefi ar gael ac yn fforddiadwy i bawb.
Tai a adeiladwyd gan Gymdeithasau Tai neu Ddarparwyr Cofrestredig, gyda chymorthdaliadau gan y Llywodraeth.
Mae incwm gros yn cyfeirio at y cyfanswm a enillwyd cyn trethi a didyniadau eraill, yn union fel cyflog blynyddol.
Mae incwm net yn cyfeirio at eich incwm yn dilyn didyniadau, h.y. treth a thaliadau Yswiriant Gwladol.
- Ecwiti - (yn berthnasol i berchnogion tai)
Gwerth yr eiddo llai unrhyw arian sy'n ddyledus gennych sy'n cael ei sicrhau yn ei erbyn.
Mae cytundeb adran 106 yn gytundeb rhwng datblygwr ac awdurdod cynllunio lleol ynghylch mesurau y mae'n rhaid i'r datblygwr eu cymryd i leihau eu heffaith ar y gymuned.