Cyfryngau Cymdeithasol

Archif Newyddion

Am Ionawr 2025. Mae na 3 cofnodion ...

Rhagfyr

Oriau Agor Tai Teg dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Posted: 24.12.25

Fydd gwasanaeth Tai Teg yn cau am y Nadolig ar y 24ain o Ragfyr 2025 am 4 y prynhawn. Byddem yn ail-agor ar yr 2il o Ionawr 2026.Nadolig llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!☃🎁🎅

Darllen mwy »

Yn Dod yn Fuan - eiddo 2 & 3 ystafell wely i'w brynu yn Bryn Castell, ger Yr Wyddgrug

Posted: 22.12.25

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd cartrefi newydd â 2 a 3 ystafell wely ar gael cyn bo hir yn Bryn Castell, Ffordd New Brighton, ger Yr Wyddgrug, New Brighton, CH7 6AP o dan y Cynllun Tai Cost Isel yng Ngogledd Cymru. I allu gwneud cais, rhaid i chi gofrestru a chael eich cymeradwyo gan Tai Teg a bodloni’r meini prawf ar gyfer yr eiddo, a fydd yn cael eu cynnwys yn yr hysbyseb yn y flwyddyn Newydd. Ewch i’r wefan i gwblhau’r cais ar-lein a’i gyflwyno i’w ystyried. Register here | Tai Teg. Am ragor o wybodaeth am y broses, cliciwch ar Proses Tai Teg | Tai Teg

Plis noder, bydd Tai Teg ar gau dros y Nadolig rhwng 24 Rhagfyr – 2 Ionawr. Am ragor o fanylion plis cysylltwch â’r Swyddog sy’n gyfrifol am werthiant yn Lovell:

📞 01352 300169 📧 bryncastell.sales@lovell.co.uk 🌐 https://newhomes.lovell.co.uk/developments/bryn-castell/

Darllen mwy »

Coed Mawr, Bangor, Gwynedd

Posted: 10.12.25

Cartrefi newydd yn dod yn fuan i Goed Mawr, Bangor - Mai 2026

Mae'r 10 cartref newydd yn rhan o raglen adeiladu Tŷ Gwynedd @CyngorGwynedd - i greu tai fforddiadwy o ansawdd uchel ar draws y sir.

Ar gael drwy Gynllun Rhannu Ecwiti.

6 x tŷ gyda 3 x llofft

4 x tŷ gyda 2 x llofft

Dyddiad cwblhau amcangyfrifedig: Mai 2026

Gwiriwch a ydych chi'n gymwys a chofrestrwch yma nawr👉 https://taiteg.org.uk/cy/

@CynlluniauTaiCyngorGwyneddHousingSchemes

Darllen mwy »