Cyfryngau Cymdeithasol

Holi am farn leol i lunio dyfodol tai ym Mae Trearddur, Môn

Wedi postio: 06.11.25

Ydych chi’n byw yn neu o gwmpas Bae Trearddur?

Mae Grŵp Cynefin yn annog trigolion a’r rhai sydd â chysylltiad lleol â Bae Trearddur a’r cymunedau cyfagos i gymryd rhan mewn holiadur newydd am anghenion tai. Maen nhw yn awyddus yn benodol i glywed gan bobol fyddai a diddordeb mewn byw yn yr ardal, trwy rentu neu brynu tŷ newydd petai rhai ar gael.

Gallwch ei ateb yma: Holiadur Anghenion Tai Bae Trearddur

Darllen mwy »

Neges Bwysig

Wedi postio: 09.10.25

⭐️Mae'n gyfnod prysur iawn!

Rydym yn derbyn nifer fawr o alwadau, ceisiadau i gofrestru a cheisiadau i’w hasesu am eiddo ar hyn o bryd. Os yw eich mater yn un brys, cysylltwch drost y ffon. Diolch am eich dealltwriaeth.

Darllen mwy »

Dinas, Caernarfon, Gwynedd

Wedi postio: 25.09.25

Eiddo Rhent Canolraddol yn dod ar gael drwy Adra.

2 x Ty Par 2 ystafell wely

2 x Ty Par 3 ystafell wely

Dyddiad cwblhau amcangyfrifedig yw diwedd Mehefin / dechrau Awst 2026!

Cofrestrwch gyda Tai Teg nawr!

Darllen mwy »

Eiddo Newydd

Wedi postio: 05.06.25

⭐️ Mi fydd eiddo newydd yn cael ei hysbysebu ar wefan Tai Teg ar ddydd Llun a Mercher yn unig o hyn ymlaen oni bai ei fod yn eiddo ail osod a bydd yn cael ei hysbysebu unrhyw ddiwrnod rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Cadw’ch lygaid allan!!

Darllen mwy »

Maes Y Felin, Glan Conwy LL28

Wedi postio: 03.03.25

Eiddo rhent yn dod ar gael drwy Cartrefi Conwy!

Datblygiad o eiddo 2,3 & 4 ystafelloedd wely ar gael.

Dyddiad cwblhau amcangyfrifedig yw Medi 2025!

Cofrestrwch gyda Tai Teg nawr!

Darllen mwy »