Cyfryngau Cymdeithasol

Llanymynech, Powys

Wedi postio: 02.03.22

Bydd 4 eiddo 2 lofft ar gael ym mis Mai 2023 sydd yn cael eu datblygu gan Somerford Reach, Arddleen yn Llanymynech, Powys. Cofrestrwch gyda Tai Teg os hoffech wneud cais am yr eiddo. Mwy o fanylion am gysylltiad lleol a rhent ac ati i ddilyn.

Darllen mwy »

Ty Gwynedd

Wedi postio: 15.02.22

Am y tro cyntaf ers 30 mlynedd, bydd Cyngor Gwynedd yn adeiladu tai newydd.

Trwy gynllun Tŷ Gwynedd, bydd Cyngor Gwynedd yn datblygu cartrefi modern o safon i bobl y sir allu eu prynu neu eu rhentu.

I ddarllen mwy cliciwch y isod⬇️https://orlo.uk/TyGwynedd_yrYLR

Darllen mwy »

Tudalen Facebook Tai Teg

Wedi postio: 26.02.21

Ydych chi'n gwybod bod gan Tai Teg dudalen facebook? Os yda chi ar facebook yna cofiwch `licio'r' dudalen a byddwch hefyd yn gallu sicrhau eich bod yn derbyn unrhyw hysbysiadau pan fyddwn yn postio negeseuon. Rhaid i chi hefyd edrych ar wefan Tai Teg i sicrhau nad ydych chi'n colli allan ar unrhyw eiddo!

Darllen mwy »

Adolygu Ymgeiswyr ar y Gofrestr * Neges Bwysig *

Wedi postio: 24.07.20

Gwybodaeth bwysig i ymgeiswyr Tai Teg

Fel rhan o’r broses flynyddol ae Tai Teg yn adolygu'r ymgeiswyr ar y gofrestr i sicrhau bod eich manylion yn gyfredol a/neu eich bod am aros ar y gofrestr.

Byddwch wedi derbyn ebost yn gofyn I chi fewngofnodi i'ch cyfrif o fewn yr 21 diwrnod nesaf i adolygu eich manylion.

Os na fyddwch wedi mewngofnodi, fel rhan o'n telerau ac amodau bydd eich cyfrif a'r holl ddata cyfatebol yn cael eu dileu. Byddwch yn gallu ail-gofrestru ar unrhyw adeg ond byddwch yn colli eich dyddiad cofrestru gwreiddiol.

Diolch yn fawr am eich cydweithrediad

Tîm Tai Teg

Darllen mwy »

Coronafirws: Neges i Ymgeiswyr Tai Teg

Wedi postio: 19.03.20

Mae Tai Teg yn gwerthfawrogi bod hwn yn gyfnod anodd a hoffai gynnig sicrwydd o'n hymrwymiad i barhau â'r gwasanaeth, yn dilyn y cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. O ystyried y nifer cynyddol o achosion o Coronafirws yn y wlad, rydym yn gosod mesurau i ddiogelu lles ein holl staff. Isod, rydym wedi amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd:

Beth ydym ni'n ei wneud i helpu i leihau lledaeniad Coronafirws:

  • Rydym yn cau ein holl swyddfeydd i'r cyhoedd;
  • Rydym yn canslo pob digwyddiad / diwrnod agored;
  • Canslo pob apwyntiad nad yw'n hanfodol;
  • Gofyn i fwyafrif ein timau weithio gartref a sicrhau bod ein holl gydweithwyr sydd â'r symptomau yn hunan-ynysu ar unwaith.

Sut y gallai hyn effeithio arnoch chi

Gan ein bod yn wynebu gweithredu gyda llai o weithlu dros yr wythnosau nesaf, gall hyn olygu:

  • Efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i ni ateb galwadau;
  • Efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i ymateb i e-byst;
  • Efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i ni asesu ceisiadau sydd dan ystyriaeth;
  • Efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i ni asesu ceisiadau am eiddo;

Sut y gallwch chi ein helpu ni

  • Cysylltwch â ni dim ond os yw'ch ymholiad yn fater brys;

Yn bwysicaf oll, gofynnwn ichi fod yn ystyrlon o’ch ffrindiau, teulu a chymdogion trwy'r amser anodd hwn.

Darllen mwy »