Cynllun Rhent Canolraddol ym Mae Colwyn
Cynllun Rhent Canolraddol drwy Tai Gogledd Cymru
Ffordd Abergele, Bae Colwyn
Darllen mwy »Cynllun Rhent Canolraddol drwy Tai Gogledd Cymru
Ffordd Abergele, Bae Colwyn
Darllen mwy »Mae darpar brynwyr a thenantiaid gogledd Cymru a Phowys yn cael eu hannog i ymuno â chofrestr tai fforddiadwy ar-lein newydd er mwyn gwella eu siawns o sicrhau eu cartref delfrydol.
Lansiwyd cofrestr Tai Teg mewn partneriaeth rhwng cymdeithasau tai’r rhanbarth, yr awdurdodau lleol, ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol er mwyn symleiddio’r dull y mae pobl yn gwneud cais am gartref fforddiadwy.
Mae nifer o gynlluniau ar gael ar gyfer y rheini sydd mewn cyflogaeth ac sy’n ennill rhwng £16,000 a £45,000, gyda rhai opsiynau ar gyfer y rhai sy’n ennill hyd at £60,000.
Grŵp Cynefin sy’n arwain y prosiect. Yn ogystal â Grŵp Cynefin, mae partneriaid eraill gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a saith awdurdod lleol : Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Powys, Cyngor Wrecsam a Chyngor Sir Ynys Môn.
Y cymdeithasau tai eraill sy’n ymwneud â’r prosiect yw Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Grŵp Tai Pennaf, Tai Gogledd Cymru, Tai Wales & West, a Cartrefi Conwy.
Mae cartref fforddiadwy yn eiddo a ddarperir am bris llai na gwerth y farchnad, naill ai i’w rentu neu brynu. Nid yw Tai Teg yn darparu tai cymdeithasol, a chynghorir pobl i barhau i ddefnyddio’r gofrestr tai cyngor perthnasol yn eu hardal.
Dywedodd Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Bydd Tai Teg yn symleiddio’r broses o gofrestru a sicrhau cartrefi fforddiadwy yng ngogledd Cymru a Phowys.
“Rydym yn annog unigolion sy’n ceisio dod o hyd i gartref fforddiadwy i’w rentu neu brynu i gofrestru. Hyd yn oed os ydych wedi cofrestru yn y gorffennol, mae’n rhaid i chi ail gofrestru ond bydd eich dyddiad cofrestru gwreiddiol yn aros yr un fath.
“Mae nifer o gynlluniau arloesol ar gael i helpu pobl i fynd ar yr ysgol i brynu cartref neu sicrhau cartref ar gyfer ei rentu. Gall pawb sydd â diddordeb ddod o hyd i mwy o wybodaeth am y meini prawf a’r eiddo sydd ar gael ar wefan newydd Tai Teg.
“Hoffem hefyd siarad â datblygwyr ynghylch sut y gall tai fforddiadwy chwarae rhan bwysig iddynt hwy ar eu safleoedd unigol.”
Bydd y gofrestr yn cael ei defnyddio i roi sylwadau ar geisiadau cynllunio ac i gefnogi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i gynllunio ar gyfer datblygiadau tai yn y dyfodol.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru diddordeb mewn cartref, ewch i’r wefan www.taiteg.org.uk.
Darllen mwy »
Dau dŷ 3 llofft ar y cynllun Rhan Ecwity
Ar gael yn fuan
Dyddiad cwblhau Rhagfyr 2018
Mwy o fanylion i ddilyn
Cofiwch gofrestru a Tai Teg er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y tai. www.taiteg.org.uk. Mae yna gysylltiad lleol ynghlwm ar safle. Mwy o wybodaeth i ddilyn.
2 x Tai 3 llofft, 4 person
Gweler manylion am meini prawf Rhent Canolraddol yma https://taiteg.org.uk/en/schem...
Mwy o wybodaeth i ddod yn yr wythnosau nesaf.
Darllen mwy »
Mae gan Cartrefi Conwy nifer o eiddo Rhent Canolraddol newydd yn dod ar safle Goetre Uchaf, Penrhosgarnedd, Bangor drost y misoedd nesaf.
Gweler isod rhestr o ddyddiadau y rhagwelir y byddent yn barod.
Bydd y tai yn cael eu hysbysebu ar wefan Tai Teg er mwyn i chi allu ymgeisio.
Cofiwch gofrestru ar Tai Teg er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y tai/fflatiau. www.taiteg.org.uk. Mwy o wybodaeth i ddilyn.
Gweler manylion am meini prawf Rhent Canolraddol yma https://taiteg.org.uk/en/schem...
4 x Ty 3 llofft – 28/02/2019
2 x Ty 2 lofft – 28/02/2019
2 x Tŷ 3 llofft - 08/03/2019
2 x Tŷ 2 lofft - 08/03/2019
3 x Tŷ 3 llofft - 12/04/2019
1 x Tŷ 2 lofft - 12/04/2019
3 x Tŷ 3 llofft - 26/04/2019
5 x Tŷ 3 llofft - 24/05/2019
5 x Tŷ 2 lofft - 24/05/2019
2 x Tŷ 3 llofft - 31/05/2019
1 x Tŷ 2 lofft - 31/05/2019
3 x Tŷ 3 llofft - 07/06/2019
1 x Tŷ 2 lofft - 07/06/2019
6 x Fflat 2 lofft - 28/06/2019
6 x Fflat 2 lofft - 05/07/2019
Fe all y dyddiadau uchod newid.
Darllen mwy »