Ty Terras 2 ystafell wely
Ty Terras 2 ystafell wely ar gael ar y Cynllun Rhan Ecwiti.
Ty Teras dwy ystafell wely fodern gyda gardd gefn gaeedig a dau le parcio i'r cefn. Wedi'i leoli yn Oakenholt ar gyrion y Fflint gyda siopau, archfarchnadoedd, ysgolion a chysylltiadau trafnidiaeth gan gynnwys llwybrau bysiau a rheilffyrdd, ffordd yr arfordir a gwibffordd yr A55 Gogledd Cymru. Mae'r Ty yn cynnwys neuadd, toiled, lolfa ac ystafell fwyta, cegin fodern i'r llawr gwaelod a dwy ystafell wely ac ystafell ymolchi fodern i'r llawr cyntaf. Mae'r eiddo hefyd yn elwa o wydro dwbl a gwres canolog boeler cyfuniad.
Mae'r eiddo yn brydlesol gyda 991 mlynedd yn weddill. Tâl gwasanaeth o £122 a rhent daear o £150.
EPC: B
Band Treth y Cyngor: C
Pris Marchnad Agored: £160,000
70% Pris Fforddiadwy £112,000
Isafswm blaendal o 5% , yn dibynnu ar fenthyciwr.
Bydd cysylltiad lleol yn cael ei ystyried fel a ganlyn:
Blaenoriaeth 1:- 15/03/2024 - 12/04/2024 Wedi byw neu weithio am 5 mlynedd ddi-dor cyn meddiant yr eiddo fforddiadwy yng Nghyngor Tref y Fflint, a rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr o Ward Fflint Oakenholt, neu fod â chysylltiad lleol cryf i'r Ward, drwy gael rhiant, brawd, chwaer, plentyn, nain neu deid neu wŷr neu wyres sy'n byw yn y Ward ac sydd wedi bod yno ers lleiafswm o 5 mlynedd ddi-dor.
Blaenoriaeth 2 (Ar ôl 4 wythnos) :- 12/04/2024 - 10/05/2024 Os nad oes Person Dynodedig wedi ei adnabod fel y nodir yn Blaenoriaeth 1, bydd y meini prawf yn ymestyn i Gyngor Tref y Fflint. ee wardiau'r Fflint Castell, Fflint Trelawny a Fflint Coleshill
Blaenoriaeth 3 (Ar ôl 4 wythnos) :- 10/05/2024 Os nad oes Person Dynodedig wedi ei adnabod fel y nodir ym Mlaenoriaeth 1 a 2 yna bydd y meini prawf yn ymestyn 1 a 2 i Sir y Fflint i gyd.
You will be required to sign a Legal Charge which is a legal document that secures the 30% equity. Flintshire County Council will charge a fee of £300 for preparing this document.
Mae ffi asesu o £75.00
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£160,000 | £112,000 | Isafswm blaendal o 5% , yn dibynnu ar fenthyciwr. |
Cyn i chi wneud cais am yr eiddo hwn, cwblhewch eich cais am aelodaeth.
Arbed yr eiddo hwn i'ch rhestr fer fel y gallwch chi ddod o hyd iddo yn nes ymlaen.
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk