Cyfryngau Cymdeithasol

50 Morfa Garreg, Pwllheli, Gwynedd

Tŷ pâr 4 Ystafell Wely, 6 Person

  • Gwynedd
  • 4 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 27.05.26 at 17:00

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 50 Morfa Garreg, Pwllheli, Gwynedd – Fill out form

Tŷ pâr 4 Ystafell Wely, 6 Person ar gael trwy'r Cynllun Rhent Canolraddol hefo Adra.

Ty 4 lofft wedi ei adnewyddu. Mae’r eiddo’n cynnwys, lolfa, cegin ac ystafell fwyta agored, 4 lofft ac ymolchfa. Gwres canolog nwy a ffenestri a drysau gwydr dwbl.

Mae’r eiddo’n cynnwys carpedi a gorchudd llawr ymhob ystafell.

Rhent Misol - £720.00

Tal Gwasanaeth - £0.00

Blaendal - 1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal ar rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £1,440.00

Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy - £28,800.00

Eiddo ar gael - Mehefin neu Gorffennaf 2026

Mae’r eiddo yn cael ei osod ar sail contract safonol misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir

Meini Prawf Preswylio

Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ymgeiswyr sydd wedi byw am 5 mlynedd neu fwy yn ardal y Cyngor Cymuned Leol lle mae’r eiddo (Pwllheli). Os na fydd ymgeiswyr addas yn cyrraedd yr meini prawf preswylio, bydd ceisiadau gan ymgeiswyr eraill yn cael eu hystyried yn y drefn isod:

1. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd (fel sy’n cael ei ddiffinio ym mholisi Cofrestr Tai Cyffredinol Gwynedd – 2019) ac wedi byw yn ardal y Cyngor Cymuned Lleol (Pwllheli) am lai na 5 mlynedd.

2. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd ac wedi byw yng Ngwynedd am 5 mlynedd

3. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd a wedi byw yng Ngwynedd ers 12 mis

EPC - C

Band Treth Y Cyngor - C

Anifeiliaid anwes - Yn unol a’r amodau o fewn eich contract.

Yn unol a’r amodau o fewn eich contract.

In accordance with the terms and conditions in your contract.

Bydd pob eiddo yn destun cyfamodau a osodir gan y Datblygwr, gan gynnwys (ond

heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:

• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Waliau Cydrannol a ffensys

• Cyfyngiadau ar barcio

• Cyfyngiadau Defnydd a Galwedigaeth

• Cyfyngiadau a rhwymedigaethau sy'n ymwneud â Gerddi Blaen a Chefn

• Cyfyngiadau ar addasiadau a gwaith adeiladu

• Rhwymedigaethau'n ymwneud â chynnal a thirlunio Coed, Llwyni ac

ymylon

• Eraill, (gan gynnwys cydsynio i Hawddfreintiau)

• Cyfyngiadau ar osod Arwyddion

• Cyfyngiadau ar gadw a bridio Anifeiliaid

• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Thâl Gwasanaeth

• Unrhyw rwymedigaethau neu gyfyngiadau ychwanegol eraill fel y'u

gosodir gan y Datblygwr.

Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw'r rhestr uchod yn derfynol ac mae'n destun newid.

Bydd copi papur yn rhestru'r Cyfamodau perthnasol ar gael wrth arwyddo, ond gellir

darparu copïau cyn hyn ar gais.

Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.



Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: 50 Morfa'r Garreg, Pwllheli, UK
  • Cod Post: LL53 5AU
  • Ystafelloedd Gwely: 4
  • Math o Eiddo: Ail Osod

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
n/a £720.00 £1,440.00

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English