Ty Ar ben ei hun, 3 Llofft, 5 Person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 24.03.26 at 12:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 11 & 12 Ffrwd Garreg Wen, Penygroes, Caernarfon, – Fill out form
Tŷ ar ben ei hun 3 lofft, 5 person ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolradd gyda Adra.
Mae’r eiddo’n cynnwys lolfa, cegin/ystafell fwyta, ystafell lyb lawr grisiau, 3 l;offt, ac ymolchfa.
Pympiau gwres ffynhonnell aer
Ffenestri a drysau gwydr dwbl UPVC
Gerddi yn y cefn yn cynnwys sied
Ardal parcio oddi ar y ffordd ar gyfer 2 gar
Mae darpariaeth yn y dyfodol ar gyfer pwynt gwefru cerbydau trydan
Mae’r eiddo yn elwa o baneli solar
Ystafell Fyw – 15.4m2
Cegin / Ystafell fwyta – 7.2m2
Lloft 1 – 12.7m2
Lloft 2 – 15.9m2
Lloft 3 – 7.6m2
Ymolchfa – 4.2m2
Carpedi / lloriau yn mhob ystafell
EPC - A
Cyngor Treth - I'w gadarnhau
Rhent Misol - £700 y mis ( Mae’n rhaid i’r rhent gael ei dalu mis o flaen llaw drwy Ddebyd Uniongyrchol neu ddull tebyg)
Tal Gwasanaeth - £10.68 yn fisol yn ychwanegol ir rhent
Blaendal - 1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal ar rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £1,410.68
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro - £28,427.20
Eiddo ar Gael - Mehefin 2026
Meini Prawf Preswylio -
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn / neu wedi byw neu weithio yn yr ardal / Cyngor Cymuned Llanllyfni (Penygroes, Llanllyfni, Nebo, Talysarn neu Nantlle) am y 12 mis blaenorol neu gyda chysylltiad teuluol agos gydag aelod o’r teulu wedi bod yn byw yn y gymuned am o leiaf 5 mlynedd.
Os nad oes digon o ymgeiswyr o’r gymuned leol, yna fe wnawn ystyried ceisiadau o gymunedau cyfagos cyn agor allan i ymgeiswyr o rannau eraill o Gwynedd.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| £700 | £1,410.68 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk