Cynllu Prynu Cartref Gwynedd
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 14.01.25 at 09:00
Mae Cynllun Prynu Cartref eisoes ar gael yn genedlaethol, ond mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu ymestyn y Cynllun hwnnw ymhellach, trwy gyfuno arian o’r Premiwm Treth Ail Gartrefi ac arian gan y Llywodraeth sy’n golygu bod gwerth £13m o fenthyciadau ecwiti ar gael er mwyn rhoi cyfle i fwy byth o bobl brynu cartref oddi ar y farchnad agored yn eu cymuned leol. Mae’r cyllid yn cynnwys buddsoddiad o £8.5m gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Beilot Ail Gartrefi Dwyfor.
Y prif addasiadau i’r Cynllun ar ei newydd wedd yw:
· Gellir benthyg rhwng 10% a hyd at 50% o werth yr eiddo
· Caniatáu ceisiadau gan aelwydydd ag incwm o hyd at £60,000 (£45,000 yn flaenorol)
· Wedi cynyddu uchafswm gwerth eiddo y gellir ei brynu i hyd at £300k
· Cynnydd sylweddol i’r gyllideb (o tua £300k y flwyddyn i £13m dros gyfnod o bedair blynedd) er mwyn gallu cynnig help i ragor o bobl
Rydym yn cadw'r hawl i ddod a'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir digon o ymgeiswyr.
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk