Cyfryngau Cymdeithasol

Ffordd Stanley, Caergybi (2 llofft, 3 person)

9 x Ty Par / Teras 2 lofft 3 person ar gael

  • Ynys Môn
  • 2 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 12.05.26 at 10:20

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma Ffordd Stanley, Holyhead (2 llofft/bedroom, 3 person) – Fill out form

9 x Ty Par / Teras 2 lofft 3 person ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol trwy Cyngor Sir Ynys Mon.

Mae’r eiddo’n cynnwys ystafell fyw, cegin/ysfell fwyta, ystafell gotiau lawr grisiau, 2 lofft, ac ymolchfa.

Gwres canolog trydan

Paneli solar

Ffenestri a drysau gwydr dwbl UPVC

Gerddi yn y tu blaen a’r cefn

Ardal ar gyfer parcio oddi ar y ffordd

Dim carpedi yn yr eiddo yn barod

Rhent wythnosol: £131.76

Tal Gwasanaeth: I'w gadarnhau

Blaendal: N/A

Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ar gyfer yr eiddo yma ydy £22,838.40

Meini Prawf Preswylio:

Blaenoriaeth 1: Ymgeiswyr sydd â phreswyliad 5 mlynedd neu fwy yn ardal y Cyngor Cymuned lle mae'r eiddo sydd i'w ddyrannu wedi’i leoli.

Blaenoriaeth 2: Ymgeiswyr sydd â phreswyliad 5 mlynedd neu fwy yn un o ardaloedd y Cynghorau Cymuned sy'n ffinio ag ardal y Cyngor Cymuned lle mae'r eiddo sydd i'w ddyrannu wedi’i leoli.

Blaenoriaeth 3: Ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio yn Ynys Môn am gyfnod o 5 mlynedd.

EPC - A

Council Tax Band - I'w gadarnhau

Anifeiliaid Anwes - yn caniatau

Eiddo yn barod: Gorffennaf 2025

Rydym yn cadw'r hawl i ddod a'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir digon o ymgeiswyr.

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.

Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: LL65 2FN
  • Cod Post: LL65 2FN
  • Ystafelloedd Gwely: 2
  • Math o Eiddo: Eiddo Newydd

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
£131.76 (weekly / wythnosol) N/A

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English