Cyfryngau Cymdeithasol

Coed Mawr, 1-10 Coed Adda, Bron y De, Bangor, Gwynedd (Tai pâr 2 lofft):

  • Shared Equity

4 tŷ pâr 2 lofft 4 person

  • Gwynedd
  • 2 Ystafelloedd Gwely

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma Coed Mawr, 1-10 Coed Adda, Bron y De, Bangor, Gwynedd (4 x 2 bed 4 person) – Fill out form

Mae 4 tŷ pâr gyda 2 lofft wedi ei ddatblygu trwy gynllun Tŷ Gwynedd, Cyngor Gwynedd ar y safle yma - ar gael i’w prynu trwy Gynllun Rhannu Ecwiti.

Mae’r eiddo yn cynnwys lolfa, cegin/ystafell fwyta, tŷ bach lawr grisiau, cyntedd, gofod storio, 2 llofft, ardal swyddfa, ystafell ymolchi a chwpwrdd cynnes. Mae hefyd opsiwn i addasu’r eiddo i ychwanegu ystafelloedd yn y dyfodol. Yn ogystal, mae gardd i bob tŷ ac ardal parcio.

Mae’r tai yn cwrdd ag egwyddorion dylunio Tŷ Gwynedd, sef eu bod yn: fforddiadwy, addasadwy, cynaliadwy ac ynni-effeithiol.

Rhoddwyd ystyriaeth i’r gallu i addasu'r tai, ac mae uchder y bondo a brig y to yn golygu y bydd modd ychwanegu ystafell yn y dyfodol. Mae'r lloriau gwaelod yn rhai 'cynllun agored', sy'n creu teimlad o le.

Mae'r cartrefi hyn wedi'u dylunio i fod yn effeithlon o ran ynni ac yn gyfforddus, gydag inswleiddio rhagorol i gadw gwres i mewn a drafftiau allan. Mae pympiau gwres ffynhonnell aer yn darparu gwres heb ddefnydd tanwydd ffosil, tra bod paneli solar yn helpu i leihau'r defnydd o ynni a gostwng costau biliau. Mae hefyd opsiwn i brynwyr osod mannau gwefru cerbydau trydan.

Pris marchnad agored – £245,000

Cynllun Rhannu Ecwiti

Mwy o wybodaeth am Gynllun Rhannu Ecwiti: https://taiteg.org.uk/cy/schemes

Pris fforddiadwy 30% i ffwrdd o bris marchnad agored - £171,500

Pris fforddiadwy 50% i ffwrdd o bris marchnad agored - £122,500

Isafswm blaendal o 5% , yn dibynnu ar fenthyciwr.

Dyddiad cwblhau - Mawrth 2026


Band Treth Cyngor - i'w gadarnhau

EPC - i'w gadarnhau

Meini prawf cysylltiad lleol:

Diffinnir cysylltiad lleol fel ymgeiswyr sydd yn byw neu wedi byw yn Wardiau yn ardal Bangor sef Dewi, Glyder, Y Faenol, Canol Bangor, Dwyrain Bangor a Arllechwedd fel Cam 1, am gyfnod o 5 mlynedd yn olynol.

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried. Mwy o wybodaeth am gynllun Tŷ Gwynedd, Cyngor Gwynedd: https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Tai/Dwin-chwilio-am-gartref/Cynllun-T%c5%b7-Gwynedd/Cynllun-T%c5%b7-Gwynedd.aspx

Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: 1-10 Coed Adda, Bron y De, Bangor, Gwynedd. LL57 4TL.
  • Cod Post: LL57 4TL
  • Ystafelloedd Gwely: 2
  • Math o Eiddo: Eiddo Newydd

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
£245,000 Pris fforddiadwy 30% i ffwrdd o bris marchnad agored - £171,500Pris fforddiadwy 50% i ffwrdd o bris marchnad agored - £122,500 Isafswm blaendal o 5% , yn dibynnu ar fenthyciwr.

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English