Cyfryngau Cymdeithasol

Coed Mawr, 1-10 Coed Adda, Bron y De, Bangor, Gwynedd (tai canol teras, 3 llofft, dros 3 llawr)

  • Shared Equity

2 dŷ canol teras gyda 3 llofft 6 person, dros 3 llawr

  • Gwynedd
  • 3 Ystafelloedd Gwely

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma Coed Mawr, 1-10 Coed Adda, Bron y De, Bangor, Gwynedd (3bed 6 person) – Fill out form

Mae 2 dŷ canol teras gyda 3 llofft wedi ei ddatblygu trwy gynllun Tŷ Gwynedd, Cyngor Gwynedd ar safle Coed Mawr ym Mangor – ar gael i’w prynu trwy Gynllun Rhannu Ecwiti.

Mae’r eiddo yn cynnwys lolfa, cegin/ystafell fwyta, tŷ bach lawr grisiau, cyntedd, gofod storio, 3 llofft, ardal swyddfa, ystafell ymolchi, ystafell gawod a chwpwrdd cynnes. Yn ogystal, mae gardd i bob tŷ ac ardal parcio.

Mae’r tai yn cwrdd ag egwyddorion dylunio Tŷ Gwynedd, sef eu bod yn: fforddiadwy, addasadwy, cynaliadwy ac ynni-effeithiol.

Mae'r cartrefi hyn wedi'u dylunio i fod yn effeithlon o ran ynni ac yn gyfforddus, gydag inswleiddio rhagorol i gadw gwres i mewn a drafftiau allan. Mae pympiau gwres ffynhonnell aer yn darparu gwres heb ddefnydd tanwydd ffosil, tra bod paneli solar yn helpu i leihau'r defnydd o ynni a gostwng costau biliau. Mae hefyd opsiwn i’r prynwr osod mannau gwefru cerbydau trydan.

Mae’r lloriau gwaelod yn rhai 'cynllun agored', sy'n creu teimlad o le.

Pris marchnad agored- £275,000

Cynllun Rhannu Ecwiti

Mwy o wybodaeth am Gynllun Rhannu Ecwiti: https://taiteg.org.uk/cy/schemes

Pris fforddiadwy 30% i ffwrdd o bris marchnad agored - £192,500

Pris fforddiadwy 50% i ffwrdd o bris marchnad agored - £137,500

Isafswm blaendal o 5% , yn dibynnu ar fenthyciwr.

Dyddiad cwblhau - Mawrth 2026

Band Treth Cyngor - i'w gadarnhau

EPC - i'w gadarnhau

Meini prawf cysylltiad lleol:

Diffinnir cysylltiad lleol fel ymgeiswyr sydd yn byw neu wedi byw yn Wardiau yn ardal Bangor sef Dewi, Glyder, Y Faenol, Canol Bangor, Dwyrain Bangor a Arllechwedd fel Cam 1, am gyfnod o 5 mlynedd yn olynol.

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.

Mwy o wybodaeth am gynllun Tŷ Gwynedd, Cyngor Gwynedd: https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Tai/Dwin-chwilio-am-gartref/Cynllun-T%c5%b7-Gwynedd/Cynllun-T%c5%b7-Gwynedd.aspx

Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: 1-10 Coed Adda, Bron y De, Bangor, Gwynedd. LL57 4TL.
  • Cod Post: LL57 4TL
  • Ystafelloedd Gwely: 3
  • Math o Eiddo: Eiddo Newydd

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
£275,000 Pris fforddiadwy 30% i ffwrdd o bris marchnad agored - £192,500Pris fforddiadwy 50% i ffwrdd o bris marchnad agored - £137,500 Isafswm blaendal o 5% , yn dibynnu ar fenthyciwr.

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English