Fflat 1 ystafell wely, 2 berson ar llawr gwaelod
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 11.06.26 at 09:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 9 Caeau Markham, LLay, Wrexham – Fill in form
Fflat 1 ystafell wely, 2 berson ar llawr gwaelod ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol gyda Adra
Cynllun agored modern – gegin, ystafell fwyta a lolfa
Gwres Canolog nwy
Ffenestri gwydr dwbl UPVC
Carpedi'n gynnwysiedig
Gardd cefn bychan
Mynediad annibynol
Ystad yn cynnwys llecyn agored a cae chwarae
Rhent misol - £490.96 wedi ei dalu misol ymlaen llaw drwy debyd uniongyrchol
1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth.
Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). cyfanswn - £997.23
Tal gwasanaeth - £15.31 bob mis
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £22,500 - (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau).
Mae’r denantiaeth yn Contract meddianaeth safonol misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r denantiaeth, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir
EPC - B
Band treth cyngor - B
Anifeiliaid - Yn unol a’r amodau o fewn y cytundeb tenantiaeth
Eiddo'n barod - Mehefin 2026
Meini prawf preswylio -
Blaenoriaeth 1 – (14/05/2026 - 11/06/2026)
Preswylio / neu deulu agos – Ardal Cyngor Cymuned Llay – Un blwyddyn cyn daliadaeth neu mewn cyflogaeth llawn amser o fewn ardal Cyngor Cymuned Llay am gyfnod o 6 mis cyn y daliadaeth arfaethedig.
Preswylio blaenorol / neu deulu agos - Ardal Cyngor Cymuned Llay – cyfnod o 5 mlynedd di dor neu cyflogaeth blaenorol o fewn Ardal Cyngor Cymuned Llay am gyfnod o 5 mlynedd
Os nad oes unigolyn yn cyrraedd y gofynion uchod gan Tai Teg ayb ac ar ôl hysbysu / masnacha mewn papur newydd yn ardal Wrecsam am o leiaf 4 wythnos:
Blaenoriaeth 2 – (12/06/2026 - 10/07/2026)
Fel yr uchod – ond ar gyfer - Gwersyllt, Rosset ac Ardal Cyngor Cymmuned Gresford. (i gynnwys marchnata ychwanegol ayb).
Blaenoriaeth 3 – (11/07/2026 - 08/08/2026)
Os nad oes blaenoriaeth 1 na blaenoriaeth 2 – ar ôl 8 wythnos – agor i ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Blaenoriaeth 4 – (09/08/2026 - 06/09/2026)
Os nad oes ymgeisydd yn cymhwyso yn blaenoriaeth 3 o fewn 12 wythnos – yna, bydd unrhyw berson, yn barn Adra neu’r Cyngor sydd a Angen Tai yn cael ei drin fel person cymwys.
Bydd pob eiddo yn destun cyfamodau a osodir gan y Datblygwr, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw'r rhestr uchod yn derfynol ac mae'n destun newid.
Bydd copi papur yn rhestru'r Cyfamodau perthnasol ar gael wrth arwyddo, ond gellir darparu copïau cyn hyn ar gais.
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| £490.96 | £997.23 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk