7 & 8 Cae’r Gors, Tregarth, Bangor, Gwynedd

2 x Tŷ par 3 ystafell wely 5 person ar gael drwy'r cynllun rhent canolraddol drwy Adra.

*Mae cynlluniau llawr a lluniau at ddibenion darlunio / marchnata yn unig – gall rhai plotiau amrywio*

  • Gwynedd
  • 3 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 16.07.24 at 09:00

2 x Tŷ par 3 ystafell wely 5 person ar gael drwy'r cynllun rhent canolraddol drwy Adra.

Datblygwr / Developer – MacLennan Construction

Mae’r eiddo’n cynnwys lolfa, cegin/ystafell fwyta, ystafell lyb lawr grisiau,3 llofft, ac ymolchfa.

Pympiau gwres ffynhonnell aer

Ffenestri a drysau gwydr dwbl UPVC

Gerddi yn y tu blaen a’r cefn yn cynnwys sied

Carpedi a lloriau yn cael ei gynnwys yn yr eiddo

Ardal parcio oddi ar y ffordd ar gyfer 2 gar

Ystafell Fyw – 3.659 x 3.232

Cegin / Ystafell fwyta - 4.079 x 3.659

Lloft 1 – 12m2

Lloft 2 – 12m2

Lloft 3 – 8m2

Ymolchfa – 2.198 x 2.132

Rhent Misol: £726.84 - Mae’n rhaid i’r rhent gael ei dalu mis o flaen llaw drwy Ddebyd Uniongyrchol neu ddull tebyg.

Tal Gwasanaeth: £13.16 yn fisol yn ychwanegol ir rhent

Blaendal: 1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal ar rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £1,466.84

Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ar gyfer yr eiddo yma ydy £29,600

Meini Prawf Presywlio:

Bydd ymgeiswyr cymwys ar gyfer y cartrefi Rhent Canolradd yng Nghae Gors yn cael eu hystyried yn y drefn flaenoriaeth ganlynol:

Blaenoriaeth 1 – Ymgeiswyr sydd angen tai fforddiadwy sydd â chysylltiad lleol (5 mlynedd neu fwy, parhaus) o fewn ward Tregarth a Mynydd Llandygai.

Blaenoriaeth 2 – Ymgeiswyr sydd angen tai fforddiadwy sydd â chysylltiad lleol (5 mlynedd neu fwy, parhaus) o fewn wardiau Rachub, Arlechwedd, Canol Bethesda a Gerlan.

Blaenoriaeth 3 – Ymgeiswyr sydd angen tai fforddiadwy gydag o leiaf 12 mis o gysylltiad lleol â Gwynedd.

Mae’r eiddo yn cael ei osod ar sail contract safonol misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir.

EPC: A

Band Treth y Cyngor: I'w gadarnhau

Anifeiliaid Anwes - Yn unol a’r amodau o fewn eich contract.

Eiddo yn barod Medi 2024.

Rydym yn cadw'r hawl i ddod a'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir digon o ymgeiswyr.

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.

Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: LL57 4FP
  • Cod Post: LL57 4FP
  • Ystafelloedd Gwely: 3
  • Math o Eiddo: Eiddo Newydd

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
N/A £726.84 £1,466.84

Cyn i chi wneud cais am yr eiddo hwn, cwblhewch eich cais am aelodaeth.

Arbed i'r rhestr fer

Arbed yr eiddo hwn i'ch rhestr fer fel y gallwch chi ddod o hyd iddo yn nes ymlaen.

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Cofrestu â Tai Teg

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English