2 x eiddo par, 3 llofft, 5 person
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma, Plot 5 & 6 Bro Deunant, Aberdaron – Fill in form
2 x eiddo par, 3 llofft, 5 person ar gael drwy'r Cynllun Rhentu Canolraddol gyda Grwp Cynefin.
2 Dŷ pâr ar gyfer 5 person (3 llofft) mewn rhes o dai cyffelyb
Gwresogi a dŵr poeth – trwy System Gwresogi Ffynhonell Aer (tanc dŵr poeth a system dau barth a reolir â thermostat – llawr gwelod a llawr cyntaf)
Ffenestri a drysau gwydr dwbl UPVC
PV solar ar y tô
Llawr Gwaelod:
Cegin/Bwyta – gofod i oergell/rewgell, stôf, peiriant golchi dillad a sychwr dillad (offer heb eu cynnwys). Lle ar gyfer bwrdd bwyta a chadeiriau (eitemau heb eu cynnwys – at ddibenion esiampl yn unig ar y cynllun), lloriau finyl (llawr diogelwch), sinc a draeniwr wedi’u cynnwys. Unedau cegin ac arwynebau gwaith wedi eu cynnwys.
Ystafell fyw – lle ar gyfer soffa a chadeiriau ar gyfer 5 person i eistedd (eitemau heb eu cynnwys – at ddibenion esiampl yn unig ar y cynllun). Pwynt teledu (teledu heb eu cynnwys). Lle ar gyfer cypyrddau ochr (Cypyrddau heb eu cynnwys) Llawr vinyl (rhoddedig).
Toiled i lawr grisiau (ystafell wlyb) – yn cynnwys cawod, sinc a thoiled, hefyd drych, daliwr papur toiled, a rheilen dal tywelion. Llawr vinyl (llawr diogelwch).
Cyntedd – lloriau vinyl (rhoddedig), cwpwrdd storio.
Llawr Cyntaf:
Ystafell wely twin – lle wr gyfer 2 wely sengl safonol, bwrdd wrth ochr y gwely, droriau, cwpwrdd dillad a bwrdd gwisgo (eitemau heb eu cynnwys – at ddibenion esiampl yn unig ar y cynllun). Carped (rhoddedig).
Ystafell wely ddwbl – Lle ar gyfer 1 gwely dwbl safonol, byrddau wrth ochr gwely, cwpwrdd dillad, droriau a bwrdd gwisgo (eitemau heb eu cynnwys – at ddibenion esiampl yn unig ar y cynllun).Carped (rhoddedig).
Ystafell wely sengl – Lle ar gyfer 1 gwely sengl safonol, bwrdd wrth ochr gwely, gofod desg, droriau a chwpwrdd dillad (eitemau heb eu cynnwys – at ddibenion esiampl yn unig ar y cynllun). Carped (rhoddedig).
Ystafell Ymolchi – yn cynnwys bath a chawod uwchben, sinc a thoiled, hefyd drych, daliwr papur toiled a rheilen dal tywelion. Cwpwrdd meddygaeth, Llawr vinyl (llawr diogelwch).
Grisiau a landin – cwpwrdd awyru (gyda gwresogydd tiwb trydanol bychan). Carped (rhoddedig).
Gofod Allanol:
Gardd gefn gaeedig gyda glaswellt – gyda mynediad ochr.
Ardal Patio
Sied Gardd
Lle parcio ar gyfer dau gar.
Rhent misol - £760
Tal gwasanaeth - Dim am y flwyddyn gyntaf
Blaendal - Mis o rent £760 + mis o flaendal £760 = £1,520
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £30,400 - (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau).
Anifeiliaid anwes - Bydd angen caniatad gan Grwp Cynefin i gadw anifeiliad anwes yn yr eiddo
EPC - i'w gadarnhau
Band Treth Y Cyngor - i'w gadarnhau
Mae deiliad y contract yn cytuno i beidio â pharcio na gadael i eraill barcio na gadael yn ardal yr annedd gerbyd o unrhyw fath heblaw am gar preifat, fan fechan neu feic modur sydd yn addas i’r ffordd fawr. Rhaid i gerbyd o’r fath gael ei barcio yn y cyfleusterau parcio ble maent yn cael eu darparu. Ble nad yw cyfleusterau o’r fath yn cael eu darparu, ni chaniateir parcio’r cerbyd ar y ffordd mewn modd a fyddai’n peri niwsans. Bydd cerbyd yn cael ei ystyried yn addas i’r ffordd fawr os yw wedi ei drethu. Rhaid ichi beidio â pharcio carafanau, cychod ac ôl-gerbydau ac eithrio lle bo’r Gymdeithas wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Gellir rhoi caniatâd gydag amodau. Ni roddir caniatâd i lorïau neu gerbydau masnachol mawr gael eu parcio yn yr annedd neu ar dir sydd yn eiddo i’r Gymdeithas neu ar dir maent yn ei reoli.
Meini Prawf Preswylio:
Ardal Blaenoriaeth 1 -Ymgeiswyr cymwys mewn angen tai sydd â chysylltiad lleol o 5 mlynedd neu fwy ( byw, gweithio neu teulu agos) â: - Cyngor Cymuned Aberdaron, gan gynnwys Aberdaron, Rhoshirwaun, Rhiw ac unrhyw aneddiadau neu glystyrau gwledig eraill o fewn ffin y gymuned fel y’u diffinnir gan ddata cysylltiad lleol swyddogol Cyngor Gwynedd.
Ardal Blaenoriaeth 2 - Ymgeiswyr cymwys mewn angen tai sydd â chysylltiad lleol o 5 mlynedd neu fwy ( byw, gweithio neu teulu agos) â: - Cyngor Cymuned Tudweiliog, gan gynnwys Tudweiliog ac unrhyw aneddiadau, clystyrau neu ardaloedd gwledig eraill o fewn ffin y gymuned. - Cyngor Cymuned Botwnnog, gan gynnwys Botwnnog ac unrhyw aneddiadau, clystyrau neu ardaloedd gwledig eraill o fewn ffin y gymuned.
Ardal Blaenoriaeth 3 - Ymgeiswyr cymwys mewn angen tai sydd â chysylltiad 5 mlynedd neu fwy ( byw, gweithio neu teulu agos) â Gwynedd.
Eiddo ar gael - Rhagfyr 2026
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| £760.00 | £1,520.00 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk