Tŷ canol Terras 2 Llofft 4 Person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 06.06.25 at 09:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma https://forms.office.com/e/rNe... *
Tŷ canol Terras 2 Llofft 4 Person ar gael ar y cynllun Rhentu I Brynu drwy Adra.
Mae’r eiddo’n cynnwys lolfa, cegin/ystafell fwyta, toilet lawr grisiau, 2 llofft, ac ymolchfa.
Gwres canolog nwy
Ffenestri a drysau gwydr dwbl UPVC
Gerddi yn y tu blaen a’r cefn
Ardal parcio oddi ar y ffordd ar gyfer 2 gar
Appliances included – Cooker hood, oven, hob and integrated fridge freezer
Dimensiynau'r Ystafelloedd
Ystafell Fyw – 3.70m x 4.40m
Cegin / Ystafell Fwyta – 3.70m x 3.25m
WC – 1.60m x 1.20m
Lloft 1 – 3.70m x 3.80m
Lloft 2 – 3.70m x 3.25m
Ystafell Ymolchi – 1.65m x 2.35m
Rhent Misol: £875
Tal Gwasanaeth: £12.63 yn fisol yn ychwanegol ir rhent
Pris Farchnad Agored: £195,000 (y prisiad cyfredol yn ddilys tan 12/05/2026)
Blaendal: 1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal ar rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £1,762.63
Lleiafswm incwm i gael eich cysidro yw £36,375
Meini Prawf Preswylio: Blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n byw neu weithio yn ardal Sir Dinbych o fewn y 12 mis dwythaf. Os nad oes ymgeiswyr addas yn cyrraedd y meini prawf cysylltiad lleol byddwn yn ystyried pob ymgeisydd cymwys arall.
Tenantiaeth: Mae’r eiddo yn cael ei osod ar sail contract safonol misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir
Anifeiliaiad Anwes: Yn unol a’r amodau o fewn y cytundeb tenantiaeth
EPC - B
Band Treth y Cyngor - C
Barod i'w osod: Mehefin 2025
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£195,000 | £887.63 | £1,762.63 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk