Tŷ canol terras 2 ystafell wely 4 person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 20.04.26 at 20:40
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 23 Rhodfa Clawdd Offa, Dinbych/Denbigh – Fill out form
Tŷ canol terras 2 ystafell wely 4 person ar gael drwy'r cynllun rhent canolraddol drwy Adra.
Mae’r eiddo’n cynnwys lolfa, cegin/ystafell fwyta, toilet lawr grisiau, 2 llofft ddwbl ac ymolchfa teulu.
· Gwres canolog nwy
· Ffenestri a drysau gwydr dwbl UPVC
· Gerddi yn y tu blaen a’r cefn
· Ardal parcio oddi ar y ffordd ar gyfer 2
Carpedi/lloriau wedi gynnwys
Ystafell Fyw: 4.84m x 2.71m15'11" x 8'11"
Cegin / Ystafell Fwyta: 3.93m x 3.24m12'11" x 10'8"
Toilet lawr grisiau: 1.45m x 1.13m4'9" x 3'8"
Lloft 1: 3.93m x 2.66m12'11" x 8'9"
Lloft 2: 3.93m x 3.34m12'11" x 10'11"
Ymolchfa: 1.99m x 1.89m6'6" x 6'2"
Rhent Misol: £729.35 pcm - Mae’n rhaid i’r rhent gael ei dalu mis o flaen llaw drwy Ddebyd Uniongyrchol neu ddull tebyg.
Service Charges: £10.05 yn fisol yn ychwanegol ir rhent
Blaendal: 1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £1,468.75
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ar gyfer yr eiddo yma ydy £29,576
Meini Prawf Presywlio: Blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n byw neu weithio yn ardal Sir Dinbych o fewn y 12 mis dwythaf. Os nad oes ymgeiswyr addas yn cyrraedd y meini prawf cysylltiad lleol byddwn yn ystyried pob ymgeisydd cymwys arall.
Mae’r eiddo yn cael ei osod ar sail contract safonol misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir
EPC: B
Band Treth y Cyngor: C
Anifeiliaid Anwes - Yn unol a’r amodau o fewn eich contract.
Eiddo yn barod Mai 2026
Bydd pob eiddo yn destun cyfamodau a osodir gan y Datblygwr, gan gynnwys
(ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:
• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Waliau Cydrannol a ffensys
• Cyfyngiadau ar barcio
• Cyfyngiadau Defnydd a Galwedigaeth
• Cyfyngiadau a rhwymedigaethau sy'n ymwneud â Gerddi Blaen a Chefn
• Cyfyngiadau ar addasiadau a gwaith adeiladu
• Rhwymedigaethau'n ymwneud â chynnal a thirlunio Coed, Llwyni ac ymylon
• Rhwymedigaethau'n ymwneud â Charthffosydd a Gwasanaethau Eraill,
• (gan gynnwys cydsynio i Hawddfreintiau)
• Cyfyngiadau ar osod Arwyddion
• Cyfyngiadau ar gadw a bridio Anifeiliaid
• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Thâl Gwasanaeth
• Unrhyw rwymedigaethau neu gyfyngiadau ychwanegol eraill fel y'u gosodir
• gan y Datblygwr.
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw'r rhestr uchod yn derfynol ac mae'n destun
newid.
Bydd copi papur yn rhestru'r Cyfamodau perthnasol ar gael wrth arwyddo, ond gellir darparu copïau cyn hyn ar gais
Rydym yn cadw'r hawl i ddod a'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir digon o ymgeiswyr.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| £739.40 | £1,468.75 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk