Tŷ Par 2 lofft 3 person ar gael
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 16.07.24 at 09:00
Tŷ Par 2 lofft 3 person ar gael drwy'r cynllun Rhent i Brynu gyda Adra.
Rhent misol £811.24 wedi talu yn fisol ymlaen llaw drwy Debyd Uniogyrchol
Tal Gwasanaeth o £27.82 y mis.
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £33,562.
1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS) = £1,650.30
Cysylltiad Lleol: Blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n byw neu weithio yn ardal Sir Conwy. Os nad oes ymgeiswyr addas yn cyrraedd y meini prawf cysylltiad lleol byddwn yn ystyried pob ymgeisydd cymwys arall.
Yn caniatau cwn yn unol a’r cytundeb tenantiaeth a unrhyw gyfyngiadau ar y safle
Mae’r eiddo yn cael ei osod ar sail contract safonol misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir.
Eiddo yn barod Gorffennaf 2024
EPC: B (gweler atodiad isod)
Band Treth Cyngor: B
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£195,000 | £811.24 | £1,650.30 |
Cyn i chi wneud cais am yr eiddo hwn, cwblhewch eich cais am aelodaeth.
Arbed yr eiddo hwn i'ch rhestr fer fel y gallwch chi ddod o hyd iddo yn nes ymlaen.
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk