Tŷ pâr 3 Ystafell Wely - 4 person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 25.03.26 at 09:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 12 Rhodfa Caradog, Oakenholt, Sir Fflint/ Flintshire – Fill out form
Tŷ pâr 3 Ystafell Wely - 4 person ar gael drwy'r Cynllun Rhentu i Brynu gyda Grwp Cynefin.
Mae’r eiddo’n cynnwys ystafell fyw/fwyta, cegin, toiled lawr grisiau, 3 llofft, ac ymolchfa
Gwres canolog nwy
Ffenestri a drysau gwydr dwbl UPVC
Gardd i gefn yr eiddo
Ardal ar gyfer parcio oddi ar y ffordd i 2 gar
Bydd Grwp Cynefin yn darparu lloriau gwrthlithro yn y gegin, ymolchfa a’r toiled lawr grisiau. Carpedi i weddill yr eiddo.
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £40,000
Rhent Misol - £904.64
Tal Gwasanaeth - £13.90
Blaendal - 1 mis o flaendal ac 1 mis rhent oflaen llaw. Cyfanswm = £918.54
Mae’r contract yn Gontract Safonol , ar sail misol, Cyn belled a cedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir.
Eiddo ar gael Mawrth 2026
Meini Prawf Preswylio-
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod
Cynllun Rhentu o Brynu -
Am fwy o fanylion dilynwch y linc
Rhentu i Berchnogi – Cymru | LLYW.CYMRU
EPC - B
Band Treth Y Cyngor - C
Cyn y gallwn gynnig tenantiaeth i chi, mae’n rhaid i ni gynnal gwiriad credyd, landlord a chyflogwr.
Os am unrhyw reswm y byddwch yn methu eich gwiriad credyd, efallai y bydd angen i chi ddarparu Gwarantwr i ni, a fydd wedyn yn gorfod cwblhau gwirid credyd.
Anifeiliaid - Hyd at 2.
Prisiant - Amcan prisiant £200,000 yn amodol ar brisiant Newydd
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk