Ty ar ben ei hun 3 ystafell wely 5 person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 20.04.26 at 09:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 1 Rhodfa’r Coed, Bwcle, Sir Fflint / 1 Woodside Close, Buckley, Flintshire – Fill out form
Ty ar ben ei hun 3 ystafell wely 5 person ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol gyda Adra
Carpedi / lloriau yn mhob ystafell
Rhent Misol- £820.36
Tal gwasanaeth - £5.60
Blaendal - Bydd rhent mis a mis blaen dal angen ei dalu ar dechrau’r denantiaeth. Cyfanswm = £1,635.12
Isafswm incwm i'w ystyried (incwm o cyflogaeth a credydau threth) - £32,814.40
Meini Prawf Preswylio:
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn/ neu wedi byw neu weithio yn yr ardal / cymuned am y 12 mis blaenorol neu gyda chysylltiad teuluol agos gydag aelod o’r teulu wedi bod yn byw yn y gymuned am o leiaf 5 mlynedd.
Os nad oes digon o ymgeiswyr o’r gymuned leol, yna fe wnawn ystyried ceisiadau o gymunedau cyfagos cyn agor allan i ymgeiswyr o rannau eraill o Sir Fflint.
Tenantiaeth - Mae’r eiddo yn cael ei osod ar sail contract safonol misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir
EPC - B
Band Treth Cyngor - D
Anifeiliaid anwes - Yn unol a’r amodau o fewn y cytundeb tenantiaeth.
Eiddo'n barod - Mai 2026
Bydd pob eiddo yn destun cyfamodau a osodir gan y Datblygwr, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:
• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Waliau Cydrannol a ffensys
• Cyfyngiadau ar barcio
• Cyfyngiadau Defnydd a Galwedigaeth
• Cyfyngiadau a rhwymedigaethau sy'n ymwneud â Gerddi Blaen a Chefn
• Cyfyngiadau ar addasiadau a gwaith adeiladu
• Rhwymedigaethau'n ymwneud â chynnal a thirlunio Coed, Llwyni ac ymylon
• Rhwymedigaethau'n ymwneud â Charthffosydd a Gwasanaethau Eraill, (gan gynnwys cydsynio i Hawddfreintiau)
• Cyfyngiadau ar osod Arwyddion
• Cyfyngiadau ar gadw a bridio Anifeiliaid
• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Thâl Gwasanaeth
• Unrhyw rwymedigaethau neu gyfyngiadau ychwanegol eraill fel y'u gosodir gan y Datblygwr.
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw'r rhestr uchod yn derfynol ac mae'n destun newid.
Bydd copi papur yn rhestru'r Cyfamodau perthnasol ar gael wrth arwyddo, ond gellir darparu copïau cyn hyn ar gais.
Rydym yn cadw'r hawl i ddod a'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir digon o ymgeiswyr.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| £825.96 | £1,635.12 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk