Rhent Canolraddol
- mae rhent canolraddol yn opsiwn i bobl sydd ddim mewn sefyllfa i brynu cartref am amryw o resymau megis dim digon o flaendal neu hanes credyd gwael
- mae’r cynllun wedi ei anelu at bobl mewn cyflogaeth, ac sydd ddim yn ddibynnol ar fudd-daliadau
- gosodir rhent ar lwfans Tai lleol neu 80% o’r rhenti farchnad agored
- rhaid i ymgeiswyr gwrdd a'r meini prawf a chofrestru â Tai Teg
- fel rheol bydd angen mis o rent a mis o flaendal
- bydd gofyn i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eiddo rhent canolraddol gwblhau gweithdrefn gwirio gan y landlord. Mae hyn i sicrhau eu bod yn ddigon sefydlog yn ariannol i gynnal tenantiaeth ar lefel rhent penodedig a'ch bod yn denantiaid addas.
- Ni ddylai fod gan ymgeisydd mwy na £16,000 o gynilion, cysylltwch â ni os ydych angen mwy o wybodaeth.
- Mae'n rhaid i'r aelwyd allu fforddio'r costau tai (gan gynnwys ' rhent ' ag unrhyw tál gwasanaeth) a dylai'r rhain gyfateb i ddim mwy nag oddeutu 30% o'r incwm gros. (Incwm gros gan gynnwys Credyd treth plant a chredyd treth gwaith) e.e. £25,000 x 30% = £7,500/12 (mis) £ 625pcm-felly byddai'r rhent fforddiadwy oddeutu £625pcm
Prynu Cartref
- mae Prynu Cartref yn gynllun a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i'ch cynorthwyo chwi i brynu eiddo ar y farchnad agored
- bydd yn ofynnol i chi allu ariannu hyd at 70% o bris yr eiddo, gyda morgais, neu gyfuniad o forgais a chynilion
- isafswm blaendal o 5%
(Yn amodol ar ofynion y benthyciwr morgais)
- bydd Grŵp Cynefin yn benthyca'r y 30% sy’n weddill i chi. Mewn rhai amgylchiadau, gellir cynyddu’r benthyciad i 50%
- bydd y benthyciad yn cael ei sicrhau yn erbyn yr eiddo, ni fydd rhent na llog yn daladwy ar y benthyciad
- pan fydd amser yn caniatáu fe allwch dalu’r benthyciad yn ôl i Grŵp Cynefin
- am fwy o wybodaeth plis cliciwch ar y linc yma a'r daflen wybodaeth isod.
- https://llyw.cymru/sites/defau...https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-02/180228-prynu-cartref-cymru-canllaw-i-brynwyr.pdf
Rhan Ecwiti
- cynigir rhan ecwiti fel arfer ar eiddo a brynir yn uniongyrchol gan ddatblygwr, gymdeithas dai/awdurdod lleol neu eiddo ail-law a brynwyd yn y gorffennol
- bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd gydymffurfio â meini prawf o’r Amod106 (Dogfen gyfreithiol yw’r Amod 106 gan y Cyngor) e.e. cysylltiad lleol
- mae’r benthyciad ecwiti yn gallu amrywio a byddai’n ofynnol i chi allu cyllido y % sy’n weddill drwy forgais neu gyfuniad o forgais a chynilion
- bydd y benthyciad ecwiti yn cael ei sicrhau yn erbyn eich eiddo, ni fydd rhent na llog yn daladwy ar y benthyciad
- mewn rhai amgylchiadau ni fyddwn yn gallu ad-dalu y benthyciad
- bydd angen Isafswm blaendal o 5% (Yn amodol ar ofynion y benthyciwr morgais)
- mewn rhai amgylchiadau ni fyddwch yn gallu ad-dalu'r % ecwiti ac felly ni fyddant yn gallu bod yn berchen 100% ar yr eiddo.
- Byddwn yn codi ffi asesu o £75.00
Eiddo Adran 106 ar Ddisgownt
- cynllun ble mae’r datblygwr yn adeiladu tai ac yn eu gwerthu ar bris disgownt is na'r o’r farchnad agored
- bydd y % discownt yn cael ei gytuno yn ystod y broses Cynllunio
- bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd gydymffurfio â meini prawf o’r Adran 106. (dogfen cyfreithiol gan y Cyngor) e.e. cysylltiad lleol
- bydd angen isafswm blaendal o 20%. (Yn amodol ar ofynion y benthyciwr morgais)
- Byddwn yn codi ffi asesu o £75.00
Rhan Berchnogaeth
- gallwch brynu cyfran o'r cartref a thalu rhent ar y gyfran arall
- gallwch brynu cyfran gychwynnol a fydd yn cyfateb i rhwng 25% a 75% o werth yr eiddo yr ydych wedi'i ddewis
- rhaid ichi gael morgais ad-dalu ar gyfer y gyfran o'r cartref yr ydych yn ei phrynu
- gallwch gynyddu eich cyfran yn yr eiddo ar unrhyw adeg
- chi fydd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r eiddo hyn yn oed os ydych talu % o rent
- am fwy o wybodaeth plis cliciwch ar y linc yma.
Rhentu i’w Brynu
- cewch gyfle i brynu'r cartref yr ydych yn ei rentu a gallwch gynilo cyfrandaliad i gyfrannu at flaendal morgais tra byddwch yn rhentu'r cartref
- byddwch yn rhentu'r cartref yn y lle cyntaf, a gall gael 25% o'r rhent a dalwyd gennych dros gyfnod y denantiaeth, a 50% o'r cynnydd yng ngwerth yr eiddo (os bydd cynnydd) yn ystod y cyfnod y byddwch yn rhentu'r eiddo – eu defnyddio fel blaendal i gyfrannu at brynu'r eiddo
- Ar gyfer y cynllun penodol hwn rydym ond yn cyfrifo incwm gros y cartref, nid ydym yn ystyried unrhyw Credyd treth plant a chredyd treth gwaith
- bydd eich cytundeb ar gyfer cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru yn para am bum mlynedd. Gallwch wneud cais i brynu eich cartref unrhyw bryd rhwng diwedd yr ail flwyddyn a diwedd y cytundeb
- am fwy o wybodaeth plis cliciwch ar y linc yma.
- rydym yn ystyried eich hanes credyd fel rhan o’r cais rhentu I brynu – a posib fyddem yn gofyn am dystiolaeth o’ch adroddiad credyd
- Mae'r cynlluniau hyn ar gyfer unigolion sydd heb isafswm o 5% o flaendal ond sy'n gallu cael mynediad at forgais
Hunan adeiladu A106
- plot o dir ar gael gan y Cyngor neu berchennog tir i adeiladu eiddo Fforddiadwy
- Rhaid i’r hunan adeiladwr gwrdd â'r Meini Prawf, a bydd yn gyfrifol am holl gostau dylunio ac adeiladu’r cartref
- lle bo'r angen, mae’n bosib y bydd y Cyngor yn gallu rhoi ‘benthyciad pontio’ hyd nes y bydd y cartref wedi ei adeiladu i safon dderbyniol fel bod modd cael morgais arno. (Cysylltwch â’r Cyngor perthnasol am fwy o wybodaeth - cofiwch nad yw pob Cyngor yn darparu’r gwasanaeth benthyciad pontio)
- Byddwn yn codi ffi asesu o £75.00
Mae cofrestru am DDIM , ond codi’r ffi asesu o £75.00 *ar rhai cynlluniau. Byddwn yn eich cynghori o hyn yn ystod y broses.