Cyfryngau Cymdeithasol

Plot 49, 51 & 52 Ffordd Glynne, Penyffordd, Chester Road

** 1 PLOT AR OL **

3 eiddo teras x 2 lofft 4 person ar gael trwy'r Cynllun Rhent Canolraddol hefo New Homes.

  • Sir Fflint
  • 2 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 07.01.25 at 09:00

** 1 PLOT AR OL **

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cysylltwch â ni drwy e-bost / ffôn neu chat drwy ein gwefan. Rhaid cyswllt gael ei wneud cyn dyddiad cau yr eiddo.*

3 eiddo teras x 2 lofft 4 person ar gael trwy'r Cynllun Rhent Canolraddol hefo New Homes.

Mae’r eiddo’n cynnwys mynediad ar wahân i'r cyntedd, cegin, ystafell fyw gyda drysau patio, tŷ bach i lawr y grisiau, 2 ystafell wely (ddwbl) ac ystafell ymolchi i’r teulu gyda chawod dros y bath. Mae gwres canolog nwy, ffenestri gwydr dwbl, a drysau, carpedi a lloriau drwy gydol y tŷ. Gardd gefn â lawnt, gydag ardal batio. Lle parcio dynodedig, 2 le ar gyfer pob eiddo. Dim faniau gwersylla. Ystyrir bod yr eiddo hyn yn anaddas ar gyfer gosod EV Chargers.

Rhent misol: £877.50

Blaendal: £877.50. CYFANSWM = £1,755

Tal Gwasanaeth: N/A

Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £35,100 - (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau).

Cysylltiad Lleol:

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn y drefn hon:

Blaenoriaeth 1-

Ymgeiswyr a oedd yn breswylydd am 3 blynedd yng nghymuned berthnasol Penyffordd a Phenymynydd cyn cael eu hasesu.

Neu

Ymgeiswyr a oedd yn cael eu cyflogi am 3 blynedd yng nghymuned berthnasol Penyffordd a Phenymynydd cyn cael eu hasesu.

Neu

Bydd ganddynt gysylltiadau lleol gyda chymuned berthnasol Penyffordd a Phenmynydd drwy gymar, rhiant, brawd, chwaer, plentyn, nain neu daid, sy’n breswylydd yn y gymuned berthnasol ac wedi bod am 3 blynedd olynol.

Blaenoriaeth 2

Os na chanfyddir deiliaid addas yn unol â’r uchod, bydd y meini prawf yn cael eu hymestyn i gymunedau Bwcle, Ewlo, Penarlâg, Brychdyn, Bretton, Higher Kinnerton a Dobshill.

Blaenoriaeth 3

Os na chanfyddir deiliaid addas yn unol â’r uchod, caiff y meini prawf eu hymestyn i Sir y Fflint gyfan.

Yn caniatau 2 anifail anwes gyda chaniatad o flaen llaw.

Contract Meddiannaeth Safonol

Eiddo yn barod: Mehefin / Gorffennaf 2024

EPC: B (gweler atodiad isod)

Band Treth Cyngor: I'w gadarnhau

Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr.

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.

Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: Chester Road, Penyffordd, Chester CH4 0JZ, UK
  • Cod Post: CH4 0JZ
  • Ystafelloedd Gwely: 2
  • Math o Eiddo: Eiddo Newydd

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
N/A £877.50 £1,755

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English