Tŷ Pâr 3 llofft, 5 person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 25.08.26 at 09:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma Plot 132 - 18 Blacksmith Road, Sealand, Deeside – Fill in form
Tŷ Pâr 3 lofft, 5 person ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol gyda Adra.
Mae’r eiddo’n cynnwys ystafell fyw, cegin/ystafell fwyta, toiled lawr grisiau
3 llofft un gyda en-suite, ymolchfa.
Boeler nwy
Ffenestri a drysau gwydr dwbl UPVC
Gerddi yn y tu blaen a’r cefn
Ardal parcio oddi ar y ffordd ar gyfer 2 gar
Carped / gorchydd llawr ym mhob ystafell
Ystafell Fyw – 4.848m x 3.487m
Cegin /Ystafell fwyta – 4.848m x 3.113m
Lloft 1 – 2.95m x 3.56m
Lloft 2 – 3.17m x 2.39m
Lloft 3 – 3.17m x 2.37m
Ymolchfa – 1.92m x 1.90m
Anifeiliaid anwes - Yn unol a’r amodau o fewn y cytundeb tenantiaeth
Rhent Misol - £941.30 y mis ( Mae’n rhaid i’r rhent gael ei dalu mis o flaen llaw drwy Ddebyd Uniongyrchol neu ddull tebyg)
Tal Gwasanaeth - £18.70 yn fisol yn ychwanegol ir rhent
Blaendal - 1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal ar rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £1,901.30
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro - £38,400
Eiddo ar Gael - Hydref 2026
Mae’r eiddo yn cael ei osod ar sail contract safonol misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir
Bydd pob eiddo yn destun cyfamodau a osodir gan y Datblygwr, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:
• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Waliau Cydrannol a ffensys
• Cyfyngiadau ar barcio
• Cyfyngiadau Defnydd a Galwedigaeth
• Cyfyngiadau a rhwymedigaethau sy'n ymwneud â Gerddi Blaen a Chefn
• Cyfyngiadau ar addasiadau a gwaith adeiladu
• Rhwymedigaethau'n ymwneud â chynnal a thirlunio Coed, Llwyni ac ymylon
• Rhwymedigaethau'n ymwneud â Charthffosydd a Gwasanaethau Eraill,
• (gan gynnwys cydsynio i Hawddfreintiau)
• Cyfyngiadau ar osod Arwyddion
• Cyfyngiadau ar gadw a bridio Anifeiliaid
• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Thâl Gwasanaeth
• Unrhyw rwymedigaethau neu gyfyngiadau ychwanegol eraill fel y'u gosodir gan y Datblygwr.
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw'r rhestr uchod yn derfynol ac mae'n destun newid.
Bydd copi papur yn rhestru'r Cyfamodau perthnasol ar gael wrth arwyddo, ond gellir darparu copïau cyn hyn ar gais
Cyswllt lleol:
Cyn cael ei enwebu fel person dynodedig, mae’r person wedi bod yn preswylio’n barhaus am dair blynedd neu wedi bod yn gweithio’n barhaus am bum mlynedd yn Sir y Fflint, neu mae ganddo/ganddi gysylltiadau lleol cryf â Sir y Fflint oherwydd bod ganddo/ganddi briod, rhiant, brawd, chwaer, plentyn, nain neu daid, neu ŵyr neu wyres sy’n preswylio yn Sir y Fflint ac sydd wedi bod yn preswylio yno am o leiaf bum mlynedd yn barhaus;
Os na chaiff person o’r fath ei nodi, bydd y cymwysterau wedyn yn ymestyn i Sir Ddinbych a bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Rydym yn cadw'r hawl i ddod a'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir digon o ymgeiswyr.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| £941.30 | £1,901.30 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk