Tŷ Canol Terras 2 Llofft, 4 Person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 13.02.26 at 09:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma Plot 12A - 28 Cae’r Llynen, Llandudno Junction, Conwy – Fill out form
Tŷ Canol Terras 2 Llofft, 4 Person ar gael drwy'r Cynllun Rhentu i'w Brynu gyda Adra.
Mae’r eiddo’n cynnwys lolfa, cegin/ystafell fwyta, ystafell gotiau lawr grisiau, 2 llofft, ac ymolchfa
Darperir gwres a dwr poeth gan foeler nwy cyfuno
Ffenestri a drysau gwydr dwbl UPVC
Mae’r eiddo yn cynnwys - Double Oven, Induction Hob and Extractor Hood
Gardd breifat gyda sied
Ardal ar gyfer parcio oddi ar y ffordd ar gyfer 2 gar
Ystafell Fyw / Living Room (Open Plan) - 4.5m x 3.2m
Cegin / Kitchen (Open Plan) 4.3m x 3.2m
Llofft 1 / Bedroom 1 - 4.3m x 2.8m
Llofft 2 / Bedroom 2 - 4.3m x 2.8m
Mae’r eiddo yn cynnwys gorchudd llawr / carped ym mhob ystafell.
Isafswm incwm i'w ystyried - £37,450.00
Pris Farchnad agored - £200,000.00
Prisiad yn ddilys hyd at 30/01/2027 Mae prisiau'n agored i newid yn dibynnu ar werth y farchnad ar y dyddiad prynu
Rhent misol - £850.00
Mae’n rhaid i’r rhent gael ei dalu mis o flaen llaw drwy Ddebyd Uniongyrchol neu ddull tebyg.
Tal Gwasanaeth - £47.10 yn fisol yn ychwanegol ir rhent
Blaendal -
1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal ar rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £1,747.10
Eiddo ar gael dechrau Mawrth 2026
Mae’r eiddo yn cael ei osod ar sail contract safonol misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir
Meini Prawf Preswylio -
Blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n byw neu weithio yn Conwy (oleiaf 12 mis).Os nad oes ymgeiswyr addas yn cyrraedd y meini prawf cysylltiad lleol byddwn yn ystyried pob ymgeisydd cymwys arall.
EPC - B (84)
Band Treth Y Cyngor - C
Anifeiliaid anwes - Yn unol a’r amodau o fewn y contract
Bydd pob eiddo yn destun cyfamodau a osodir gan y Datblygwr, gan gynnwys
(ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:
• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Waliau Cydrannol a ffensys
• Cyfyngiadau ar barcio
• Cyfyngiadau Defnydd a Galwedigaeth
• Cyfyngiadau a rhwymedigaethau sy'n ymwneud â Gerddi Blaen a Chefn
• Cyfyngiadau ar addasiadau a gwaith adeiladu
• Rhwymedigaethau'n ymwneud â chynnal a thirlunio Coed, Llwyni ac ymylon
• Rhwymedigaethau'n ymwneud â Charthffosydd a Gwasanaethau Eraill,
• (gan gynnwys cydsynio i Hawddfreintiau)
• Cyfyngiadau ar osod Arwyddion
• Cyfyngiadau ar gadw a bridio Anifeiliaid
• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Thâl Gwasanaeth
• Unrhyw rwymedigaethau neu gyfyngiadau ychwanegol eraill fel y'u gosodir gan y Datblygwr.
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw'r rhestr uchod yn derfynol ac mae'n destun newid.
Bydd copi papur yn rhestru'r Cyfamodau perthnasol ar gael wrth arwyddo, ond gellir darparu copïau cyn hyn ar gais.
Rydym yn cadw'r hawl i ddod a'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir digon o ymgeiswyr.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| £200,000.00 | £897.10 | £1,747.10 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk