Tŷ pâr 2 ystafell wely 4 person
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 82 Cilfach Cwta, Parc y Coed, Llangefni Ynys Mon/ Anglesey – Fill out form
Tŷ pâr 2 ystafell wely 4 person ar gael drwy y Cynllun Disgownt A106.
Tai semi wedi eu lleoli ar stad breifat newydd o dros 100 o dai yn Llangefni. Llawr gwaelod yn cynnwys ystafell fyw, cegin ac ystafell gawod. Llawr cyntaf yn cynnwys 2 lofft ac ystafell molchi. Mae’r tai wedi eu hadeiladu i EPC B efo system gwresogi nwy. Y tu allan 2 x lle parcio a gardd breifat i’r cefn efo patio a shed.
Rhaid i Incwm Cartref Gros fod rhwng £16,000 - £60,000.
Pris Farchnad Agored: £200,00
Pris Fforddiadwy: £140,000
Lleiafswm o 5% o flaendal - yn dibynnu ar fenthyciwr
Tal Gwasanaeth: I'w gadarnhau
Eiddo ar gael Tachwedd2025
Meini Prawf Preswylio:
Mae cysylltiad lleol yn golygu person sydd, am o leiaf 5 mlynedd cyn prynu neu rentu anheddiad fforddiadwy, wedi bod â’u preswylfa unig neu brif le ar Ynys Môn, neu wedi bod â’u lle gwaith ar Ynys Môn, neu gyfuniad o'r ddau, neu, pan nad ydynt yn byw ar Ynys Môn, mae ganddynt gynnig swydd ar Ynys Môn neu maent wedi sefydlu cysylltiadau (er enghraifft, pobl hŷn sydd angen symud i ardal benodol i fod yn agos at berthnasau)
EPC - B
Band Treth Y Cyngor - C
Dim polisi ar niferoedd o anifeiliaid anwes
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| £200,000 | £140,000 | Lleiafswm o 5% o flaendal - yn dibynnu ar fenthyciwr |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk