Fflat llawr cyntaf 2 ystafell wely 4 person ar gael
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch ar y linc yma: https://forms.office.com/e/KX3...*
Fflat llawr cyntaf 2 ystafell wely 4 person ar gael ar y cynllun rhent canolraddol trwy Clwyd Alyn.
Mae'r eiddo yn cynnwys cyntedd, ystafell fyw/cegin/ystafell fwyta, ystafell ymolchi a 2 ystafell wely ddwbl. Mae gan yr eiddo iard gefn gymunedol. Dim parcio wedi'i neilltuo. Carpedi a lloriau sydd wedi'u cynnwys yn yr eiddo.
Rhent Misol: £657.57 sy'n cynnwys y tâl gwasanaeth
Blaendal: £1,315.14
Isafswm incwm i'w ystyried ar gyfer yr eiddo hwn yw £26,302.80
EPC - gweler atodiad isod
Band Treth y Cyngor - I'w gadarnhau
Anifeiliaid anwes - Ddim yn caniatau anifeiliaid anwes
Contract Safonol
Meini Prawf
Blaenoriaeth 1: Rhaid bod â chysylltiad lleoliad 12 mis (yn byw/gweithio/byw neu gweithio yn flaenorol/teulu agos) â Bae Colwyn.
Blaenoriaeth 2: Rhaid bod â chysylltiad lleoliad o 12 mis (yn byw/gweithio/byw neu gweithio yn flaenorol/teulu agos) â threfi cyfagos (Hen Golwyn, Bae Penrhyn, Llandrillo-yn-Rhos).
Blaenoriaeth 3: Rhaid bod â chysylltiad lleoliad 12 mis (yn byw/gweithio/byw neu gweithio yn flaenorol/teulu agos) â Sir Conwy.
Eiddo ar gael Diwedd Mawrth 2025
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£657.57 | £1,315.14 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk