Tŷ Pâr tair lofft wedi ei ddatblygu trwy gynllun Tŷ Gwynedd Cyngor Gwynedd – ar gael i’w brynu trwy gynllun rhannu ecwiti.
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma https://forms.office.com/e/P3a...
Tŷ Pâr tair lofft wedi ei ddatblygu trwy gynllun Tŷ Gwynedd Cyngor Gwynedd – ar gael i’w brynu trwy gynllun rhannu ecwiti.
Mae'r eiddo yn cynnwys lolfa, cegin/ystafell fwyta, tŷ bach lawr y grisiau, cyntedd, lle storio, ystafell olchi dillad, 2 lofft, swyddfa, ystafell ymolchi a chwpwrdd cynnes. Gardd yn y blaen a'r cefn.
Mae'r tai eu hunain wedi'u dylunio i gwrdd â nodweddion Tŷ Gwynedd' sef: Fforddiadwyedd, Gallu Addasu, Cynaladwyedd, Ynni Effeithlon. Mae'r lloriau gwaelod yn rhai 'cynllun agored' yn bennaf, sy'n creu'r ymdeimlad o le, gyda golau naturiol yn llifo i mewn o'r blaen a'r cefn. Dyluniwyd y cartrefi i gwrdd â Safonau Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru, felly maent oll yn cynnwys gofod hyblyg ar gyfer gweithio o adref a gofod i gynnwys technolegau modern megis Pympiau Gwres o'r Aer. Ceir hefyd fynediad allan i erddi braf sy'n edrych dros y nant sy'n llifo i'r gogledd o'r safle. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i'r gallu i addasu'r tai yn y dyfodol, ac mae uchder y bondo a brig y to yn golygu y bydd modd addasu'r tai yn y dyfodol.
Mae'r tai wedi dylunio gyda'r bwriad o gael y gorau posib allan o'r deunyddiau adeiladu o ran effeithlonrwydd ynni, gyda lefelau uchel o effeithlonrwydd thermol a chadw drafft allan. Mae pympiau gwres o'r aer yn sicrhau nad yw'r tai'n defnyddio tanwydd ffosil, ac mae paneli PV ar y toeau tua'r de yn helpu i sicrhau bod y cartrefi yn ynni-effeithlon at ddefnydd y preswylwyr.
Dyluniwyd trefniant y safle i osgoi ardaloedd mawr o arwyneb caled yn wynebu'r ffordd - plannwyd gwyrddni rhwng y mannau parcio i bob tŷ i leihau effaith y datblygiad.
30% - 50% - Cynllun rhannu ecwiti
Cynllun Fforddiadwy “O safbwynt unrhyw dŷ rhent, bydd disgownt o leiaf 20% ar brisiau’r farchnad agored yn cael ei gynnig, gan helpu pobl i gynilo blaendal ar gyfer prynu yn y dyfodol.”
Pris farchnad agored- £320,000
Pris fforddiadwy 30% - £224,000
Pris fforddiadwy 50% - £160,000
Isafswm blaendal o 5% , yn dibynnu ar fenthyciwr.
Band Treth Y Cyngoe - I'w gadarnhau
EPC - I'w gadarnhau
Gweler isod am Feini prawf Cysylltiad Lleol -
Ymgeiswyr sydd yn byw neu wedi byw yn y Cyngor Cymuned, neu Chyngor Cymuned Cyfagos sy'n ffinio, am gyfnod o 5 mlynedd yn olynol.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£320,000 | Pris fforddiadwy 30% - £224,000 & Pris fforddiadwy 50% - £160,000 | 5% |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk