Cyfryngau Cymdeithasol

Dôl Afon Goch, Ffordd Capel Coch, Llanberis, Caernarfon (Ty ar wahân tair lofft)

  • Shared Equity

Tŷ ar wahân tair lofft wedi ei ddatblygu trwy gynllun Tŷ Gwynedd Cyngor Gwynedd – ar gael i’w brynu trwy gynllun rhannu ecwiti.

  • Gwynedd
  • 3 Ystafelloedd Gwely

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma https://forms.office.com/e/msK...

Tŷ ar wahân tair lofft wedi ei ddatblygu trwy gynllun Tŷ Gwynedd Cyngor Gwynedd – ar gael i’w brynu trwy gynllun rhannu ecwiti.

Mae'r eiddo yn cynnwys lolfa, cegin/ystafell fwyta, tŷ bach lawr y grisiau, cyntedd, lle storio, ystafell olchi dillad, 2 lofft, swyddfa, ystafell ymolchi a chwpwrdd cynnes. Gardd yn y blaen a'r cefn.

Mae'r tai eu hunain wedi'u dylunio i gwrdd â nodweddion Tŷ Gwynedd' sef: Fforddiadwyedd, Gallu Addasu, Cynaladwyedd, Ynni Effeithlon. Mae'r lloriau gwaelod yn rhai 'cynllun agored' yn bennaf, sy'n creu'r ymdeimlad o le, gyda golau naturiol yn llifo i mewn o'r blaen a'r cefn. Dyluniwyd y cartrefi i gwrdd â Safonau Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru, felly maent oll yn cynnwys gofod hyblyg ar gyfer gweithio o adref a gofod i gynnwys technolegau modern megis Pympiau Gwres o'r Aer. Ceir hefyd fynediad allan i erddi braf sy'n edrych dros y nant sy'n llifo i'r gogledd o'r safle. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i'r gallu i addasu'r tai yn y dyfodol, ac mae uchder y bondo a brig y to yn golygu y bydd modd addasu'r tai yn y dyfodol.

Mae'r tai wedi dylunio gyda'r bwriad o gael y gorau posib allan o'r deunyddiau adeiladu o ran effeithlonrwydd ynni, gyda lefelau uchel o effeithlonrwydd thermol a chadw drafft allan. Mae pympiau gwres o'r aer yn sicrhau nad yw'r tai'n defnyddio tanwydd ffosil, ac mae paneli PV ar y toeau tua'r de yn helpu i sicrhau bod y cartrefi yn ynni-effeithlon at ddefnydd y preswylwyr.

Dyluniwyd trefniant y safle i osgoi ardaloedd mawr o arwyneb caled yn wynebu'r ffordd - plannwyd gwyrddni rhwng y mannau parcio i bob tŷ i leihau effaith y datblygiad.

30% - 50% - Cynllun rhannu ecwiti

Cynllun Fforddiadwy “O safbwynt unrhyw dŷ rhent, bydd disgownt o leiaf 20% ar brisiau’r farchnad agored yn cael ei gynnig, gan helpu pobl i gynilo blaendal ar gyfer prynu yn y dyfodol.”

Pris farchnad agored- £350,000

Pris fforddiadwy 30% - £245,000

Pris fforddiadwy 50% - £175,000

Isafswm blaendal o 5% , yn dibynnu ar fenthyciwr.

Band Treth Y Cyngoe - I'w gadarnhau

EPC - I'w gadarnhau

Gweler isod am Feini prawf Cysylltiad Lleol -

Ymgeiswyr sydd yn byw neu wedi byw yn y Cyngor Cymuned, neu Chyngor Cymuned Cyfagos sy'n ffinio, am gyfnod o 5 mlynedd yn olynol.

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.


Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: Dolafon Guest House, High Street, Llanberis, Caernarfon, UK
  • Cod Post: LL55 4SH
  • Ystafelloedd Gwely: 3
  • Math o Eiddo: Eiddo Newydd

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
£350,000 30% - £245,000 - 50% - £175,000 5%

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English