3 Eiddo 3 Ystafell Wely 5 person Diwedd terras
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 07.05.26 at 09:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma Cysgod Lefain, Nefyn, Pwllheli – Fill out form
3 Eiddo 3 Ystafell Wely 5 person Diwedd terras ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol gyda Grwp Cynefin.
Rhif 5 – 5 Person 3 lofft (Ystafell wely ddwbl, twin ac sengl)
Rhif 6 – 5 Person 3 llofft (Ystafell wely ddwbl, twin ac sengl)
Rhif 10 – 5 Person 3 llofft (Ystafell wely ddwbl, twin ac sengl)
Tŷ diwedd teras i 5 o bobl (3 gwely)
Gwresogi a dŵr poeth - trwy System Gwresogi Ffynhonnell Aer (tanc dŵr poeth a system dau barth a reolir â thermostat - llawr gwaelod a llawr cyntaf)
Ffenestri a drysau gwydr dwbl UPVC
PV solar ar y to
Llawr Gwaelod
Cegin/Bwyta (lle i oergell, popty/hob, peiriant golchi a sychwr – offer heb eu cynnwys). Lle ar gyfer bwrdd bwyta a chadeiriau (eitemau heb eu cynnwys lloriau finyl. Sinc a draeniwr wedi'u cynnwys. Mae unedau cegin ac arwynebau gwaith wedi'u cynnwys.
Ystafell Fyw (lle i hyd at 6 sedd – gweler y cynllun (soffas heb eu cynnwys – at ddibenion darlunio yn unig ar y cynllun) Pwynt teledu ar gael (teledu heb ei gynnwys) Lle ar gyfer cypyrddau ochr (cypyrddau heb eu cynnwys) Llawr finyl.
Toiled i lawr y grisiau (Ystafell Wlyb) - yn cynnwys cawod, sinc a thoiled. lloriau finyl
Cyntedd – lloriau finyl, cwpwrdd storio.
Llawr Cyntaf (mynediad trwy risiau carped o'r cyntedd i lawr y grisiau)
Ystafell wely twin - Lle ar gael ar gyfer 2 x gwely sengl safonol, bwrdd wrth ochr y gwely, droriau, cwpwrdd dillad a bwrdd gwisgo (nid yw'r eitemau wedi'u cynnwys - dangosir ar y cynllun at ddibenion enghreifftiol yn unig). Llawr carped.
Ystafell wely ddwbl - Lle ar gyfer 1 x gwely dwbl safonol, byrddau wrth ochr y gwely, cwpwrdd dillad, droriau a bwrdd gwisgo (nid yw'r eitemau wedi'u cynnwys - dangosir ar y cynllun at ddibenion darlunio yn unig). Llawr carped.
Ystafell wely sengl - Lle ar gyfer 1 x gwely sengl safonol, bwrdd wrth ochr y gwely, gofod desg, droriau a chwpwrdd dillad (eitemau heb eu cynnwys - cynllun at ddibenion darlunio yn unig). Llawr carped.
Ystafell ymolchi - yn cynnwys bath a chawod uwchben, sinc a thoiled. lloriau finyl.
Cyntedd a landin - llawr carped, cwpwrdd awyru (gyda gwres tiwb trydanol bach)
Gofod allanol
Gardd gefn gaeedig gyda glaswellt - gyda mynediad ochr
Ardal patio
Sied gardd
Lle parcio ar gyfer dau gar
Carpedi a lloriau yn cael ei gynnwys yn yr eiddo
Rhent misol - £780 yn cynnwys Tal Gwasanaeth
Blaendal - Mis o rent £780 + mis o flaendal £780 = £1,560
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £31,550 - (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau).
Meini Prawf Preswylio
Blaenoriaeth 1 - Bydd rhaid i ymgeiswyr gael oleiaf 5 mlynedd o gysylltiad lleol i Gyngor Cymuned Tref Nefyn, sef byw, man gwaith sefydlog neu teulu agos (rhieni,neiniau a theidiau, brodyr a chwiorydd, plant sy’n oedolion) / Applicants will need to have at least 5 years of local connection to Nefyn
Blaenoriaeth 2 - Bydd rhaid i ymgeiswyr gael oleiaf 5 mlynedd o gysylltiad lleol i Gynghorau Cymuned cyfagos, sef byw, man gwaith sefydlog neu teulu agos (rhieni,neiniau a theidiau, brodyr a chwiorydd, plant sy’n oedolion)
Blaenoriaeth 3 - Bydd rhaid i ymgeiswyr gael oleiaf 5 mlynedd o gysylltiad lleol i Wynedd, sef byw, man gwaith sefydlog neu teulu agos (rhieni,neiniau a theidiau, brodyr a chwiorydd, plant sy’n oedolion)
EPC - I'w gadarnhau
Band Treth Y Cyngor - I'w gadarnhau
Anifeiliaid anwes - Bydd angen caniatad gan Grwp Cynefin i gadw anifeiliad anwes yn yr eiddo
Eiddo ar gael diwedd Mehefin
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| n/a | £780 | £1,560 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk