Cyfryngau Cymdeithasol

Cledan, Park Street, Denbigh

Tŷ terras 2 ystafell wely

  • Sir Ddinbych
  • 2 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 02.01.25 at 09:00

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cysylltwch â ni drwy e-bost / ffôn neu chat drwy ein gwefan. Rhaid cyswllt gael ei wneud cyn dyddiad cau yr eiddo.*

Tŷ terras 2 ystafell welyar gael ar y cynllun Rhent Canolraddol drwy Datblygwr Preifat.

Ty teras 2 ystafell, diweddarwyd yn 2020, cegin/ystafell bwyta, lolfa cyfunol, 1 ystafell i lawr grisiau, 1 ystafell a ystafell molchi ar y llawr cytaf, lloriau laminedig dry gydol heblaw grisiau (carpedi wedi gosod). gwres canolog nwy, ffenestri a drysau rhannol dwbl gwydr, cwrt wedi'i daranu ir cefn, 2 mannau parcio dyrannu, dim anifail anwes, dim ysmygwr.

Dimensiynau: Cegin/ystafell bwyta/ lolfa: 7 x 4.3 m Ystafell 2 i lawr grisiau: 3.9 x 2.9 m Ystafell 1 ar llawr cyntaf: 3.8 x 4.5 m Toiled/ystafell ymolchi: 1.6 x 1.75 m

Rhent: £631.60

Blaendal - 1 fis o rhent o flaen llaw

Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £25,264 - (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau).

Bydd Cysylltiad Lleol yn cael ei ystyried yn y drefn hon:

i) Rhaid ei fod wedi byw /preswylio gan ei fod yn brif breswyliad yn barhaus yn yr ardal am 5 mlynedd

ii) rhaid iddo fod wedi byw/preswylio o'r blaen fel ei brif breswyliad yn barhaus yn yr ardal leol am 5 mlynedd ac yn dymuno symud yn ôl

iii) Wedi gweithio'n barhaus yn yr ardal leol am o leiaf 5 mlynedd - neu wedi ymddeol o waith yn yr ardal leol o fewn y 2 flynedd ddiwethaf yn dilyn gwaith parhaus yn yr ardal am o leiaf 5 mlynedd.

iv) wedi gadael llety clwm fel ei brif breswylfa ac sydd wedi byw neu weithio yn yr ardal am o leiaf 5 mlynedd.

v) sy'n cynnwys gweithiwr allweddol sy'n gweithio yn yr ardal leol ac sy'n dymuno byw yn yr ardal leol - nid oes angen cyfnod cymhwyso

vi)pan fo'r person yn symud i'r ardal i ofalu am berthynas/cyfaill agos sydd (i) yn gymwys fel uchod a (ii) sydd angen gofal a sylw sylweddol.

vii) aelwyd sy'n cynnwys person ar y Gofrestr Tai Arbenigol ar gyfer Sir Ddinbych

viii) aelwyd sy'n cynnwys person ar y Rhestr Prosiect Tai â Chymorth ar gyfer Sir Ddinbych

EPC - Wedi atodi

Band Treth y Cyngor - C

Eiddo yn barod dechrau Tachwedd 2024

Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.


Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: LL16 3DD
  • Cod Post: LL16 3DD
  • Ystafelloedd Gwely: 2
  • Math o Eiddo: Ail Osod

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
£790 £631.60 £631.60

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English