Tŷ pâr 2 Lofft 4 person
Tŷ pâr 2 Lofft 4 person ar werth ar y Cynllun Rhan Ecwiti trwy Tai Gogledd Cymru.
2 ystafell wely
Cegin
Ystafell Fyw
Ystafell ymolchi ac ystafell gotiau
Parcio i'r tu cefn
EPC - Wedi atodi
Band Treth y Cyngor - C
Caniatau anifeiliaid Anwes
Pris Farchnad Agored : £270,000
Pris fforddiadwy 60% £162,000
Isafswm blaendal o 5% , yn dibynnu ar fenthyciwr.
Bydd cysylltiad lleol yn cael ei ystyried fel a ganlyn:
Am y 3 mis cyntaf o hysbysebu byddwn ond yn ystyried ymgeiswyr sydd â chysylltiadau â'r isod:
(a) person sydd wedi byw neu weithio yn yr ardal leol lle mae'r tir coch wedi'w leoli neu yn ardal y cyngor cymuned cyfagos, am gyfnod parhaus o 10 mlynedd yn union cyn cyflwyno'r cais neu feddiannu'r eiddo neu
(b) person sy'n byw y tu allan i'r ardal leol ond sydd wedi byw o fewn yr ardal leol ond sydd wedi byw yno yn y gorffennol am gyfanswm o 10 mlynedd neu fwy yn y gorffennol, neu
(c) person sy'n byw y tu allan i'r ardal leol ond sydd wedi byw yno yn y gorffennol am gyfanswm o 10 mlynedd gan gynnwys cyfnod di-dor o 5 mlynedd neu fwy o fewn cyfnod o ugain mlynedd.
Ar ôl hysbysebu am y 3 mis cyntaf, byddem wedyn yn agor ceisiadau ar gyfer ymgeiswyr cymwys eilradd am 3 mis arall fel y nodir isod:
(a) person sydd wedi byw neu weithio yn y Sir lle mae'r tir coch wedi'w leoli am gyfnod parhaus o 10 mlynedd yn union cyn cyflwyno'r cais neu feddiannu'r eiddo neu
(b) person sy'n byw y tu allan i'r Sir ond sydd wedi byw o fewn y Sir am gyfnod di-dor o 10 mlynedd neu fwy yn y gorffennol, neu
(c) person sy'n byw y tu allan i'r Sir ond sydd wedi byw yno yn y gorffennol am gyfanswm o 10 mlynedd gan gynnwys cyfnod di-dor o 5 mlynedd neu fwy o fewn cyfnod o ugain mlynedd.
Bydd ffi asesu o £75 yn daladwy
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£270,000 | £162,000 | Isafswm blaendal o 5% , yn dibynnu ar fenthyciwr. |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk