Cynllun Prynu Cartref Ynys Mon
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 23.01.25 at 09:00
Os ydych chi’n dymuno prynu cartref ond nad ydych yn gallu cael morgais digonol er mwyn gallu prynu ar y farchnad agored, efallai y gallai’r Cyngor eich helpu gyda benthyciad ecwiti a fyddai’n eich galluogi i’w brynu heb orfod ariannu’r gost yn llawn. Byddai’r tŷ wedyn yn eiddo rhannu ecwiti.
Bydd angen i chi gael blaendal sydd o leiaf 5% er mwyn cael mynediad i’r cynllun.
Sut bydd ymgeiswyr yn cael eu blaenoriaethu?
Blaenoriaeth 1 Ymgeiswyr sydd wedi byw yn ardal y Cyngor Tref / Cymuned lle mae’r eiddo wedi’i leoli am 5 mlynedd neu fwy.
Blaenoriaeth 2 Ymgeiswyr sydd wedi byw am 5 mlynedd neu fwy yn un o ardaloedd y Cyngor Tref / Cymuned cyfagos i ardal y Cyngor Tref / Cymuned lle mae’r eiddo wedi’i leoli.
Blaenoriaeth 3 Ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio yn Ynys Môn am gyfnod o bum mlynedd.
Gweler y ddogfen isod sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth am y cynllyn:
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk