Ty Teras 3 Llofft
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma https://forms.office.com/e/eMz... *
Tŷ Teras 3 Llofft ar gael ar y cynllun Rhan Ecwiti.
Ty canol teras 3 llofft wedi’i gyflwyno’n daclus gyda chegin fodern, ystafell gotiau lawr grisiau, gardd gefn hawdd ei chynnal a pharcio oddi ar y ffordd wedi’i neilltuio.
Pris Marchnad Agored - £190,000
70% Pris Fforddiadwy - £133,000
Tal Gwasanaeth - £137.57
Isafswm blaendal o 5% , yn dibynnu ar fenthyciwr.
Band Treth y Cyngor - D
Lesddaliad
EPC - https://find-energy-certificat...
Gweler isod am Feini prawf Cysylltiad Lleol
Blaenoriaeth 1 - 27/05/2025 - 22/07/2025
Wedi byw neu weithio am 3 mlynedd ddi-dor cyn meddiant yr eiddo fforddiadwy yn cymuned Penyffordd, neu’r cymunedau sy’n ffinio a Yr Hôb, Coed-llai, Bwcle, Penarlag, Brychdyn, Bretton a Kinnerton Uchaf neu gyda chysylltiad lleol cryf i’r ward drwy gael rhieni, brawd, chwaer, plentyn, teidiau a neiniau, wŷr neu wyres sydd yn byw yn y Ward ac wedi byw yno ers lleiafswm o 3 mlynedd ddi-dor.
Blaenoriaeth 2 - 22/07/2025 - 19/08/2025
Os nad oes Person Dynodedig wedi ei adnabod fel y nodir yn Flaenoriaeth 1, bydd y meini prawf yn ymestyn i Llanfynydd, Treuddyn, Caergwrle ac Ewlo.
Blaenoriaeth 3 - 19/08/2025 - 16/09/2025
Os nad oes Person Dynodedig wedi ei adnabod fel y nodir ym Mlaenoriaeth 1 a 2 bydd anghenion preswyl a gwaith yn ymestyn i Sir y Fflint yn gyfan, gydag amser cymhwyso yn lleihau o 3 mlynedd i 2 mlynedd.
Blaenoriaeth 4 - 16/09/2025 - 14/10/2025
Os nad oes Person Dynodedig wedi ei adnabod fel y nodir ym Mlaenoriaeth 1, 2 a 3 bydd anghenion preswyl yn ymestyn i gynnwys Siroedd Dinbych a Wrecsam gydag amser cymhwyso yn lleihau o 2 mlynedd i 12 mis.
Byddwn yn gofyn am ffi asesu o £75.00, tuag at costau gweinyddu’r asesiad. Bydd y ffi hefyd yn cadw’r eiddo i chi tra ‘rydym yn cynnal y profion angenrheidiol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Ffioedd i Gyngor Sir y Fflint Bydd gofyn ichi lofnodi Arwystol Cyfreithiol sy'n ddogfen gyfreithiol isicrhau'r ecwiti 30%. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn codi ffi o £300 ar gyfer paratoi'r ddogfen hon.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£190,000 | £133,000 | Isafswm blaendal o 5% , yn dibynnu ar fenthyciwr. |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk