Eiddo 3 ystafell wely 4 person ar gael drwy'r cynllun Rhent Canolraddol drwy Grwp Cynefin
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 21.08.26 at 12:00
* Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 8 Rhodfa Caradog, Oakenholt, Sir y Fflint – Fill in form*
Eiddo 3 ystafell wely 4 person ar gael drwy'r cynllun Rhent Canolraddol drwy Grwp Cynefin.
Mae’r eiddo’n cynnwys ystafell fyw/fwyta, cegin, 3 llofft, ac ymolchfa. Toiled lawr grisiau.
Bydd Grwp Cynefin yn darparu lloriau gwrthlithro yn y gegin, ymolchfa a’r toiled lawr grisiau, a charpedi yn yr ystafelloedd eraill.
Rhent Misol - £844
Tal Gwasanaeth - £12.02 yn fisol yn ychwanegol i'r rhent
Isafswm incwm i'w ystyried (incwm o cyflogaeth a credydau threth) - £34,240
Blaendal - Bydd angen I chwi dalu mis o rhent o £856.02 a blaendal o £856.02 o flaen y denantiaeth, cyfanswm £1,712.04
Eiddo ar gael diwedd Medi / dechrau Hydref 2026
Mae’r contract yn Gontract Safonol , ar sail misol, cyn belled a cedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir.
Meini Prawf Cysylltiad Lleol -
a) yn byw neu weithio yn ardal cymuned Oakenholt am gyfnod di-dor o 1 mlynedd yn union cyn derbyn meddiannaeth o’r eiddo, neu wedi byw neu weithio yn ardal cymuned Oakenholt am gyfnod o 1 mlynedd yn y gorffennol.
b) Os nad oes gennym ddigon o ymgeiswyr o Oakenholt yna fe wnawn ystyried ceisiadau o gymuned Y Fflint neu Cei Connah, Llaneurgain cyn agor allan i Sir y Fflint
EPC - B
Band Treth Cyngor - C
Anifeiliaid Anwes - Hyd at 2
Cyn y gallwn gynnig tenantiaeth i chi, mae’n rhaid i ni gynnal gwiriad credyd, landlord a chyflogwr. Os am unrhyw reswm y byddwch yn methu eich gwiriad credyd, efallai y bydd angen i chi ddarparu Gwarantwr i ni, a fydd wedyn yn gorfod cwblhau gwirid credyd.
Rydym yn cadw'r hawl i ddod a'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir digon o ymgeiswyr.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| N/A | £856.02 | £1,712.04 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk