Fflat 2 ysfatell wely, 3-4 person ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol gyda Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 11.12.25 at 09:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 8 Llys Cadfan, Oakenholt – Fill in form
Ardal
Rhandy 2 ystafell wely, wedi’i adeiladu’n draddodiadol. Wedi’i leoli ar safle poblogaidd Croes Atti, mae’r bloc o randai hardd wedi eu hadeiladu gan Anwyl ar ddiwedd 2020.
Mynedfa
Byddwch yn dod mewn i’r adeilad gydag allwedd ac yn cerdded i mewn i’r bloc cymunedol. Gyda digon o olau, ac yn
groesawgar, bydd y bloc modern yn gwneud i chi deimlo’n gartrefol wrth i chi gamu i mewn.
Cerddwch i fyny i’r rhandy, sydd wedi’i leoli ar yr llawr cyntaf ac ewch i mewn drwy’r drws ffrynt.
Byddwch yn cerdded yn syth i’r cyntedd, sy’n rhoi mynediad i’r holl ystafelloedd yn yr eiddo; yr ystafell fyw / cegin, ystafelloedd gwely 1 a 2, ystafell ymolchi a chwpwrdd storio.
Cegin / Ystafell Fyw
Mae’r ystafell fyw / cegin cynllun agored yn olau gyda digon o le. Mae lliw y gegin yn fodern ac mae lle i roi oergell a rhewgell, popty a pheiriant golchi.
Mae maint yr ystafell fyw yn wych, gyda golau yn llifo i mewn drwy’r drysau patio. Gyda ffenestri mawr, a drysau patio – nid yw’r ystafell hon fyth yn ddiflas! Mae bleinds wedi cael eu gosod yn y gegin a’r ystafell fyw.
Ystafell ymolchi
Mae’r ystafell ymolchi gwyn a modern yn cynnwys toiled, basn ymolchi dwylo, rheilen lliain a baddon gyda chawod uwchben. Mae’r ystafell yn cynnwys sgrin cawod gwydr a ffenestr wydr barugog.
Ystafelloedd Gwely (1 a 2)
Mae dwy ystafell wely o faint ardderchog yn fonws ychwanegol i’r eiddo. Mae’r brif ystafell wely hefyd yn elwa o ddrysau patio, ac mae gan yr eiddo nodweddion arbennig.
Nodweddion Ychwanegol
Mae gorchuddion llawr wedi’u cynnwys yn y gegin ac yn yr ystafell ymolchi
Gwres canolog nwy.
Systemau ysgeintwyr ac awyru wedi eu gosod.
Mae parcio wedi’i gynnwys yn y maes parcio – 1 gofod i bob eiddo
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £27,000 - (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau).
Contract Meddiannaeth Safonol
Rhent - £675.00
Blaendal - £675.00
Un mis o rent ymlaen llaw a blaendal yn ofynnol cyn arwyddo ar gyfer yr eiddo
Ni chaniateir anifeiliaid anwes yn yr adeilad.
Ni chaniateir ysmygu yn yr adeilad
Dim faniau gwersylla
Blaenoriaeth 1 - Cysylltiad lleol â Oakenholt a Fflint e.e. byw a gweithio yn y gymuned am o leiaf 12 mis.
Blaenoriaeth 2 - Os na ddoir o hyd i ddeiliaid addas fel uchod, caiff y meini prawf lleol ei ymestyn i gymunedau cyfagos Flint Mountain, Bagillt, Llaneurgain, Northop Hall, Cei Connah and Shotton
Blaenoriaeth 3 - Os na ddoir o hyd i ddeiliaid addas fel uchod, caiff y meini prawf lleol ei ymestyn i Sir y Fflint cyfan.
TPY - B
Band treth Cyngor - B
Eiddo'n barod - Chwefror 2026
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| £675.00 | £675.00 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk