Cyfryngau Cymdeithasol

74 Ffordd Glynne, Penymynydd

Tŷ terras 2 lofft, 3/4 person

  • Sir Fflint
  • 2 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 21.08.26 at 09:00

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 74 Ffordd Glynne, Penymynydd – Fill in form

Tŷ terras 2 lofft, 3/4 person ar gael trwy'r Cynllun Rhent Canolraddol hefo New Homes.

Mae’r eiddo’n cynnwys mynediad ar wahân, cegin, ystafell fyw gyda drysau patio, tŷ bach i lawr y grisiau,

2 ystafell wely (ddwbl) ac ystafell ymolchi i’r teulu gyda chawod dros y bath.

Mae gwres canolog nwy

Ffenestri gwydr dwbl, a drysau

Gardd gefn â lawnt, gydag ardal batio

Lle parcio dynodedig, 2 le ar gyfer pob eiddo

Rhent misol: £877.50

Blaendal: £877.50. CYFANSWM = £1,755.00

Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £35,100 - (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau).

Yn caniatau 2 anifail anwes gyda chaniatad o flaen llaw.

Dim faniau campio

Contract Meddiannaeth Safonol

EPC: B

Band Treth Cyngor: C

Cysylltiad Lleol:

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn y drefn hon:

Blaenoriaeth 1-

Ymgeiswyr a oedd yn breswylydd am 3 blynedd yng nghymuned berthnasol Penyffordd a Phenymynydd cyn cael eu hasesu.

Neu

Ymgeiswyr a oedd yn cael eu cyflogi am 3 blynedd yng nghymuned berthnasol Penyffordd a Phenymynydd cyn cael eu hasesu.

Neu

Bydd ganddynt gysylltiadau lleol gyda chymuned berthnasol Penyffordd a Phenmynydd drwy gymar, rhiant, brawd, chwaer, plentyn, nain neu daid, sy’n breswylydd yn y gymuned berthnasol ac wedi bod am 3 blynedd olynol.

Blaenoriaeth 2

Os na chanfyddir deiliaid addas yn unol â’r uchod, bydd y meini prawf yn cael eu hymestyn i gymunedau Bwcle, Ewlo, Penarlâg, Brychdyn, Bretton, Higher Kinnerton a Dobshill.

Blaenoriaeth 3 Os na chanfyddir deiliaid addas yn unol â’r uchod, caiff y meini prawf eu hymestyn i Sir y Fflint gyfan.

Eiddo yn barod: Hydref 2026

Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr.

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.

Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: CH4 0TW
  • Cod Post: CH4 0TW
  • Ystafelloedd Gwely: 2
  • Math o Eiddo: Ail Osod

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
£877.50 £1,755.00

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English