Cyfryngau Cymdeithasol

6 Y Ddol, Edern, Gwynedd

Ty 3 lofft Ty Par wedi ei adnewyddu ar gael drwy'r Cynllun Rhentu Canolraddol gyda Adra.

  • Gwynedd
  • 3 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 23.01.26 at 16:00

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 6 Y Ddol, Edern – Fill out form

Ty 3 lofft Ty Par wedi ei adnewyddu.

* Mae'r cartref yma'n rhan o Gynllun Prynu i Osod Cyngor Gwynedd i brynu tai ledled y sir i'w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy.

Mae’r eiddo’n cynnwys, lolfa, cegin ac ystafell fwyta agored , 3 lofft ac ymolchfa.

Gwres Canolog Air source a ffenestri a drysau gwydr dwbl.

Mae’r eiddo’n cynnwys carpedi a gorchudd llawr ymhob ystafell.

Gerddi tu cefn.

Bydd pob eiddo yn destun cyfamodau a osodir gan y Datblygwr, gan gynnwys (ond

heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:  

• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Waliau Cydrannol a ffensys 

• Cyfyngiadau ar barcio 

• Cyfyngiadau Defnydd a Galwedigaeth 

• Cyfyngiadau a rhwymedigaethau sy'n ymwneud â Gerddi Blaen a Chefn   

• Cyfyngiadau ar addasiadau a gwaith adeiladu   

• Rhwymedigaethau'n ymwneud â chynnal a thirlunio Coed, Llwyni acymylon   

• Eraill, (gan gynnwys cydsynio i Hawddfreintiau)  

• Cyfyngiadau ar osod Arwyddion 

• Cyfyngiadau ar gadw a bridio Anifeiliaid 

• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Thâl Gwasanaeth 

Unrhyw rwymedigaethau neu gyfyngiadau ychwanegol eraill fel y'u gosodir gan y Datblygwr.  

Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw'r rhestr uchod yn derfynol ac mae'n destun newid.   

Bydd copi papur yn rhestru'r Cyfamodau perthnasol ar gael wrth arwyddo, ond gellir darparu copïau cyn hyn ar gais. 

Rhent Misol - £680

Blaendal - £680

1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal ar rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £1,360

Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau) - £27,200

EPC - I'w gadarnhau

Band Treth y Cyngor - D

Eiddo ar Gael: Ionawr 2026

Meini Prawf Preswylio:

Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ymgeiswyr sydd wedi byw am 5 mlynedd neu fwy yn ardal y Cyngor Cymuned Leol lle mae’r eiddo (Nefyn).

Os na fydd ymgeiswyr addas yn cyrraedd yr meini prawf preswylio, bydd ceisiadau gan ymgeiswyr eraill yn cael eu hystyried yn y drefn isod:

1. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd (fel sy’n cael ei ddiffinio ym mholisi Cofrestr Tai Cyffredinol Gwynedd – 2019) ac wedi byw yn ardal y Cyngor Cymuned Lleol (Nefyn) am lai na 5 mlynedd.

2. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd ac wedi byw yng Ngwynedd am 5 mlynedd

3. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd a wedi byw yng Ngwynedd ers 12 mis

Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.

Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: Lon Llan, Edern, Pwllheli LL53 6JA, UK
  • Cod Post: LL53 6JA
  • Ystafelloedd Gwely: 3
  • Math o Eiddo: Ail Osod

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
£680 £680

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English