Cyfryngau Cymdeithasol

50 Ffordd Rowlands, Bwcle/Buckley

Tŷ pâr 3 Ystafell Wely, 4 person

  • Sir Fflint
  • 3 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 16.05.26 at 09:00

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 50 Ffordd Rowlands, Bwcle/Buckley, Sir Fflint/ Flintshire – Fill out form

Tŷ pâr 3 Ystafell Wely, 4 person ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol gyda Grwp Cynefin.

Mae’r eiddo’n cynnwys Ystafell fyw, cegin/ystafell fwyta, toiled lawr grisiau, 3 llofft (un gyda en-suite) ac ymolchfa.

Bydd Grwp Cynefin yn darparu lloriau gwrthlithro yn y gegin, ymolchfa a’r toiled lawr grisiau, a charpedi yn yr ystafelloedd eraill.

Rhent Misol - £767.27

Tal Gwasanaeth - £23.77 y mis

Blaendal - 1 mis rhent ac 1 mis o flaendal oflaen llaw. Cyfanswm - £1,582.08

Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £31641.60 - (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau).

Eiddo ar gael Diwedd Mehefin 2026

Mae’r contract yn Gontract Safonol , ar sail misol, Cyn belled a cedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir.

Meini Prawf Preswylio -

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod

a) yn byw neu weithio yn ardal cymuned Bwcle am gyfnod di-dor o 1 mlynedd yn union cyn derbyn meddiannaeth o’r eiddo, neu wedi byw neu weithio yn ardal cymuned Bwcle am gyfnod o 1 mlynedd yn y gorffennol.

b) Os nad oes gennym ddigon o ymgeiswyr o Bwcle yna fe wnawn ystyried ceisiadau o gymuned Mynydd Isa, Drury, Ewlo a Llaneurgain cyn agor allan i Sir y Fflint.

EPC - C

Band Treth Y Cyngor - C

Cyn y gallwn gynnig tenantiaeth i chi, mae’n rhaid i ni gynnal gwiriad credyd, landlord a chyflogwr.

Os am unrhyw reswm y byddwch yn methu eich gwiriad credyd, efallai y bydd angen i chi ddarparu Gwarantwr i ni, a fydd wedyn yn gorfod cwblhau gwirid credyd.

Anifeiliaid anwes - Fynnu at 2

Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.


Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: 50 Ffordd Rowlands, Buckley, Sir y Fflint CH7 3DD, UK
  • Cod Post: CH7 3DD
  • Ystafelloedd Gwely: 3
  • Math o Eiddo: Ail Osod

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
N/A £791.04 £1582.08

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English