Fflat llawr gwaelod 1 ystafell wely
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 19.09.25 at 10:30
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma https://forms.office.com/e/ZeZ...
Fflat llawr gwaelod 1 ystafell wely ar gael trwy'r Cynllun Rhent Canolraddol gyda New Homes.
Fflat gyda chegin / ystafell fyw agored a digon o le. Ni chynhwysir unrhyw nwyddau gwynion.
1 ystafell wely, ystafell ymolchi fawr gyda chawod trydan dros y bath.
Storfa y gellir cerdded i mewn iddi.
Gwres canolog nwy.
Parcio ar gael.
Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu yn yr adeilad.
System drws cymunol gyda system ‘intercom’.
Contract Meddiannaeth Safonol
Rhent misol - £540.00
Blaendal - £540.00
Eiddo ar gael Hydref 2025
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy - £21,600
Caiff ymgeiswyr eu hystyried yn y drefn hon:
Blaenoriaeth 1 –Cysylltiad lleol â Fflint / Oakenholt e.e. byw a gweithio yn y gymuned am o leiaf 12 mis.
Blaenoriaeth 2 –Os na ddoir o hyd i ddeiliaid addas fel uchod, caiff y meini prawf lleol ei ymestyn i gymunedau cyfagos Bagillt, Maes Glas, Flint Mountain & Llaneurgain
Blaenoriaeth 3 –Os na ddoir o hyd i ddeiliaid addas fel uchod, caiff y meini prawf lleol ei ymestyn i Sir y Fflint cyfan.
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£540.00 | £540.00 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk